• Mae'r arolwg yma bellach ar gau.

    Rydyn ni wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer y cymwysterau TAAU newydd a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. 

    Mae meini prawf cymeradwyo yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni wrth ddylunio eu cymwysterau.

    Rydyn ni’n gwahodd rhanddeiliaid i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft ac i rannu eu hadborth cyn i ni gyhoeddi’r dogfennau terfynol. 

    Mae'r dogfennau hyn yn dal i fod yn rhai drafft. Bydd unrhyw anghywirdebau testunol neu anghysondebau rhwng dogfennau yn cael eu cywiro cyn cyhoeddi'r ddogfen derfynol.

    Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cynorthwyo ein gwaith datblygu wrth i ni baratoi fersiynau terfynol y meini prawf cymeradwyo.  

    Bydd y cyfle yma i roi adborth yn cau ar 23 Hydref 2024.

  • Mae'r arolwg yma bellach ar gau.

    Rydyn ni wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer cymwysterau newydd y Gyfres Sgiliau a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. Dyma nhw:

    Mae meini prawf cymeradwyo yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni wrth ddylunio eu cymwysterau. 

    Rydyn ni’n gwahodd rhanddeiliaid i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft ac i rannu eu hadborth cyn i ni gyhoeddi’r dogfennau terfynol.

    Mae'r dogfennau hyn yn dal i fod yn rhai drafft. Bydd unrhyw anghywirdebau testunol neu anghysondebau rhwng dogfennau yn cael eu cywiro cyn cyhoeddi'r ddogfen derfynol.

    Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cynorthwyo ein gwaith datblygu wrth i ni baratoi fersiynau terfynol y meini prawf cymeradwyo.  

    Bydd y cyfle yma i roi adborth yn cau ar 23 Hydref 2024.
  • Mae'r arolwg yma bellach ar gau.

    Rydyn ni wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer y cymwysterau Sylfaen newydd a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.  Mae dau faen prawf cymeradwyo drafft; un ar gyfer pynciau cyffredinol ac un ar gyfer pynciau sy'n gysylltiedig â gwaith.

    Mae meini prawf cymeradwyo yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni wrth ddylunio eu cymwysterau. 

    Rydyn ni’n gwahodd rhanddeiliaid i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft ac i rannu eu hadborth cyn i ni gyhoeddi’r dogfennau terfynol. 

    Mae'r dogfennau hyn yn dal i fod yn rhai drafft. Bydd unrhyw anghywirdebau testunol neu anghysondebau rhwng dogfennau yn cael eu cywiro cyn cyhoeddi'r ddogfen derfynol.

    Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cynorthwyo ein gwaith datblygu wrth i ni baratoi fersiynau terfynol y meini prawf cymeradwyo.  

    Bydd y cyfle yma i roi adborth yn cau ar 23 Hydref 2024.

  • Gan fod canolfannau ledled Cymru wedi dechrau cyflwyno ton gyntaf y Cymwysterau Cenedlaethol ers mis Medi 2025, hoffem gael eich barn gychwynnol ar y cymwysterau rydych chi’n eu cynnig. Erbyn 2027, y Cymwysterau Cenedlaethol fydd yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r cymwysterau a gynigir i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru. Byddan nhw’n ystod gynhwysfawr o gymwysterau sy’n ymestyn o Lefel Mynediad hyd at Lefel 2 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Llywodraeth Cymru.  

     

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau ar ddysgu 14 i 16 i helpu canolfannau i gynllunio eu cwricwlwm ac i fodloni’r hawl i ddysgu newydd, sy'n amlinellu'r cwricwlwm y bydd gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yr hawl iddo. Mae’r hawl i ddysgu yn golygu y dylai canolfannau drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o gwmpas pedair elfen allweddol: 

     

    • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd 
    • cymwysterau i annog ehangder 
    • dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm 
    • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16 

     

    Dyma gyfres o Cymwysterau Cenedlaethol cydlynol a chynhwysol sydd wedi cael eu curadu’n ofalus, ac maen nhw’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sectorau – waeth beth fo’u gallu, eu diddordebau a’u sgiliau.    

     

    Rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym pa Cymwysterau Cenedlaethol rydych chi'n eu cynnig ar hyn o bryd, a pha rai rydych chi'n ystyried eu cynnig yn eich canolfan o 2026 a 2027 ymlaen. Gan eich bod yn dal i ddisgwyl rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Ton 3, rydym yn deall nad ydych wedi cadarnhau beth fydd eich cynnig yn y dyfodol eto, ac y gallai eich dewisiadau newid dros amser. Er hyn, bydd eich atebion yn gymorth i ni a’n partneriaid allweddol ddeall pa Cymwysterau Cenedlaethol sy’n cael eu dewis ar hyn o bryd, a pha rai fydd yn cael eu dewis yn y dyfodol. Mae saith cwestiwn i gyd. Gallwch edrych ar fersiwn PDF o'r cwestiynau hyn wrth gynllunio eich ymateb, ond gwnewch yn siŵr mai drwy’r arolwg electronig hwn y byddwch chi’n cyflwyno eich atebion. Cydlynwch eich ymateb drwy wneud yn siŵr fod Pennaeth y Ganolfan yn ei gymeradwyo.

     

    Dim ond un ymateb gaiff pob canolfan ei gyflwyno, a rhaid gwneud hynny erbyn 15 Rhagfyr 2025.

    Arolwg
  • AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.

    Wrth i ganolfannau ledled Cymru baratoi i gyflwyno'r don gyntaf o Gymwysterau Cenedlaethol o fis Medi 2025, hoffem gael eich barn gychwynnol ar eich cynnig o gymwysterau.  

     

    Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r cynnig cymwysterau i'w defnyddio ar raglenni dysgu sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru ac maen nhw’n ystod gynhwysfawr o gymwysterau sy'n cynnwys Lefel Mynediad i Lefel 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau (CQFW) Llywodraeth Cymru.  

     

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau ar ddysgu 14 16 i helpu canolfannau i gynllunio eu cwricwlwm a bodloni'r hawl i ddysgu newydd, sy'n amlinellu'r cwricwlwm y bydd gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 10 ac 11 yr hawl iddo. 

     

    Mae’r hawl i ddysgu yn golygu y dylai canolfannau drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o amgylch pedair cydran allweddol: 


    • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd 

    • cymwysterau i annog ehangder 

    • dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm 

    • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16 

     

    Mae'r gyfres hon o gymwysterau cydlynol a chynhwysol sydd wedi'u curadu'n ofalus yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a meysydd sector ac ar amrywiaeth o wahanol lefelau.  

     

    Yn dilyn cyhoeddi manylebau TGAU Ton 1 gan CBAC a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a gyda rhagor o wybodaeth i ddilyn ar gymwysterau Ton 2 a Ton 3, rydym yn cydnabod mai gwybodaeth wrth i chi ystyried y cynnig yw'r hyn y byddwch yn ei roi, ac yn deall y gallai hyn newid dros amser. 

     

    Fodd bynnag, bydd eich atebion yn rhoi syniad i ni ynghylch faint sy'n debygol o fanteisio ar y cymwysterau ac yn caniatáu gwell dealltwriaeth o gynlluniau canolfannau. Mae saith cwestiwn i gyd. Mae fersiwn PDF o gwestiynau'r arolwg yma i'ch helpu i gynllunio'ch ymateb, ond sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich ymateb canolfan drwy'r arolwg electronig hwn. 

     

    Cydlynwch eich ymateb a chyflwynwch un ymateb i bob canolfan yn unig, gan sicrhau bod eich ymateb yn cael ei gymeradwyo gan Bennaeth y Ganolfan erbyn 16 Rhagfyr 2024, os gwelwch yn dda.  

  • Take Survey
  • Cwblhewch y ffurflen isod i nodi pa gymwysterau diwygiedig Sgiliau Hanfodol Cymru y mae gennych chi ddiddordeb yn eu datblygu.

    Os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â ni yn: SgiliauHanfodolCymru@cymwysterau.cymru

    Take Survey
  • AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.


    Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn rhan o Faes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm i Gymru. O fis Medi 2027 ymlaen, bydd ysgolion yn gallu cyflwyno unedau Iaith Arwyddion Prydain ar ystod o lefelau o Lefel Mynediad i Lefel 2 fel rhan o'r cymhwyster Sgiliau Bywyd newydd.

    Er mwyn cefnogi ein gwaith parhaus o amgylch Cymwysterau Cenedlaethol 14-16, rydym am gasglu gwybodaeth am ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain mewn ysgolion, a'u bwriad yn y dyfodol o ran y pwnc hwn. Bydd yr arolwg hwn yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol o amgylch Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 mewn Iaith Arwyddion Prydain.

    Cydlynwch eich ymateb a chyflwynwch un ymateb i bob canolfan yn unig, gan sicrhau bod eich ymateb yn cael ei gymeradwyo gan Bennaeth y Ganolfan erbyn Hydref 24, os gwelwch yn dda.  


Diweddaru: 06 Tach 2025, 09:36 AC