Meini Prawf Cymeradwyo Drafft: Cymwysterau Sylfaen
Rydyn ni wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer y cymwysterau Sylfaen newydd a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. Mae dau faen prawf cymeradwyo drafft; un ar gyfer pynciau cyffredinol ac un ar gyfer pynciau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Mae meini prawf cymeradwyo yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni wrth ddylunio eu cymwysterau.
Rydyn ni’n gwahodd rhanddeiliaid i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft ac i rannu eu hadborth cyn i ni gyhoeddi’r dogfennau terfynol.
Mae'r dogfennau hyn yn dal i fod yn rhai drafft. Bydd unrhyw anghywirdebau testunol neu anghysondebau rhwng dogfennau yn cael eu cywiro cyn cyhoeddi'r ddogfen derfynol.
Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn cynorthwyo ein gwaith datblygu wrth i ni baratoi fersiynau terfynol y meini prawf cymeradwyo.
Bydd y cyfle yma i roi adborth yn cau ar 23 Hydref 2024.