Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Cynlluniau i gyflwyno Cymwysterau Cenedlaethol – arolwg i ganolfannau

Wrth i ganolfannau ledled Cymru baratoi i gyflwyno'r don gyntaf o Gymwysterau Cenedlaethol o fis Medi 2025, hoffem gael eich barn gychwynnol ar eich cynnig o gymwysterau.  

 

Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r cynnig cymwysterau i'w defnyddio ar raglenni dysgu sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru ac maen nhw’n ystod gynhwysfawr o gymwysterau sy'n cynnwys Lefel Mynediad i Lefel 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau (CQFW) Llywodraeth Cymru.  

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau ar ddysgu 14 16 i helpu canolfannau i gynllunio eu cwricwlwm a bodloni'r hawl i ddysgu newydd, sy'n amlinellu'r cwricwlwm y bydd gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 10 ac 11 yr hawl iddo. 

 

Mae’r hawl i ddysgu yn golygu y dylai canolfannau drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o amgylch pedair cydran allweddol: 


  • cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd 

  • cymwysterau i annog ehangder 

  • dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm 

  • myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16 

 

Mae'r gyfres hon o gymwysterau cydlynol a chynhwysol sydd wedi'u curadu'n ofalus yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a meysydd sector ac ar amrywiaeth o wahanol lefelau.  

 

Yn dilyn cyhoeddi manylebau TGAU Ton 1 gan CBAC a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a gyda rhagor o wybodaeth i ddilyn ar gymwysterau Ton 2 a Ton 3, rydym yn cydnabod mai gwybodaeth wrth i chi ystyried y cynnig yw'r hyn y byddwch yn ei roi, ac yn deall y gallai hyn newid dros amser. 

 

Fodd bynnag, bydd eich atebion yn rhoi syniad i ni ynghylch faint sy'n debygol o fanteisio ar y cymwysterau ac yn caniatáu gwell dealltwriaeth o gynlluniau canolfannau. Mae saith cwestiwn i gyd. Mae fersiwn PDF o gwestiynau'r arolwg yma i'ch helpu i gynllunio'ch ymateb, ond sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich ymateb canolfan drwy'r arolwg electronig hwn. 

 

Cydlynwch eich ymateb a chyflwynwch un ymateb i bob canolfan yn unig, gan sicrhau bod eich ymateb yn cael ei gymeradwyo gan Bennaeth y Ganolfan erbyn 6 Rhagfyr 2024, os gwelwch yn dda.  

Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon