
Cynlluniau 2025 i gyflwyno Cymwysterau Cenedlaethol 14–16
Gan fod canolfannau ledled Cymru wedi dechrau cyflwyno ton gyntaf y Cymwysterau Cenedlaethol ers mis Medi 2025, hoffem gael eich barn gychwynnol ar y cymwysterau rydych chi’n eu cynnig. Erbyn 2027, y Cymwysterau Cenedlaethol fydd yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r cymwysterau a gynigir i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru. Byddan nhw’n ystod gynhwysfawr o gymwysterau sy’n ymestyn o Lefel Mynediad hyd at Lefel 2 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chanllawiau ar ddysgu 14 i 16 i helpu canolfannau i gynllunio eu cwricwlwm ac i fodloni’r hawl i ddysgu newydd, sy'n amlinellu'r cwricwlwm y bydd gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yr hawl iddo. Mae’r hawl i ddysgu yn golygu y dylai canolfannau drefnu amser ac adnoddau eu cwricwlwm o gwmpas pedair elfen allweddol:
- cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
- cymwysterau i annog ehangder
- dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm
- myfyrio ar ddysgu a chynnydd a chynllunio ôl-16
Dyma gyfres o Cymwysterau Cenedlaethol cydlynol a chynhwysol sydd wedi cael eu curadu’n ofalus, ac maen nhw’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sectorau – waeth beth fo’u gallu, eu diddordebau a’u sgiliau.
Rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym pa Cymwysterau Cenedlaethol rydych chi'n eu cynnig ar hyn o bryd, a pha rai rydych chi'n ystyried eu cynnig yn eich canolfan o 2026 a 2027 ymlaen. Gan eich bod yn dal i ddisgwyl rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Ton 3, rydym yn deall nad ydych wedi cadarnhau beth fydd eich cynnig yn y dyfodol eto, ac y gallai eich dewisiadau newid dros amser. Er hyn, bydd eich atebion yn gymorth i ni a’n partneriaid allweddol ddeall pa Cymwysterau Cenedlaethol sy’n cael eu dewis ar hyn o bryd, a pha rai fydd yn cael eu dewis yn y dyfodol. Mae saith cwestiwn i gyd. Gallwch edrych ar fersiwn PDF o'r cwestiynau hyn wrth gynllunio eich ymateb, ond gwnewch yn siŵr mai drwy’r arolwg electronig hwn y byddwch chi’n cyflwyno eich atebion. Cydlynwch eich ymateb drwy wneud yn siŵr fod Pennaeth y Ganolfan yn ei gymeradwyo.
Dim ond un ymateb gaiff pob canolfan ei gyflwyno, a rhaid gwneud hynny erbyn 15 Rhagfyr 2025.
