Polisi preifatrwydd

Pa wybodaeth bersonol fydd gan Cymwysterau Cymru amdanaf i?

Gwybodaeth proffil cofrestru:

Er mwyn cofrestru ar y platfform yma byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol benodol gennych chi.  Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch dewisiadau iaith ynghyd â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddeall pa fathau o randdeiliaid rydyn ni wedi’u cyrraedd drwy ein gwaith ymgysylltu.  

Efallai y byddwn ni’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost a'ch dewisiadau iaith i anfon negeseuon atoch chi am brosiectau ymgysylltu â rhanddeiliaid a allai fod o ddiddordeb i chi.  Bydd opsiwn i ddad-danysgrifio o'r e-byst hyn.

Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio eich e-bost i gysylltu â chi am eich ymatebion

Gwybodaeth Ymgysylltu:

Gall y cynnwys rydych chi'n ei greu fel rhan o'ch rhyngweithio ar y platfform hwn gynnwys ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus, arolygon, polau piniwn cyflym, sylwadau a fforymau trafod.  Bydd hyn yn cael ei gadw ynghyd â'ch gwybodaeth gofrestru adnabyddadwy.

Dylech osgoi cynnwys gwybodaeth bersonol am eraill mewn ymatebion.

Pwrpas cadw’r wybodaeth yma yw cefnogi ein prif nodau, sef:

  • sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; 
  • hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Ein sail gyfreithlon dros gadw'r wybodaeth hon yw er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus fel rheoleiddiwr y system gymwysterau yng Nghymru ac er mwyn arfer ein swyddogaethau swyddogol o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (yn unol ag erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU)

Byddwn ni hefyd yn gofyn am wybodaeth bersonol am nodweddion gwarchodedig (gwybodaeth “categori arbennig" o dan GDPR y DU).   Bydd y rhain yn gwestiynau dewisol ac mae modd i chi eu hepgor. Rydyn ni’n defnyddio sail gyfreithiol “caniatâd penodol” i brosesu’r data hwn (yn unol ag erthygl 9(2)(a) o GDPR y DU).   Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy fewngofnodi i’r platfform a diwygio’ch ymatebion cofrestru.   Pwrpas gofyn am y wybodaeth yma yw cefnogi ein prif nodau fel yr amlinellwyd uchod i fonitro sut rydyn ni wedi ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Os ydych chi o dan 13 oed, rydyn ni’n gofyn i riant/gwarcheidwad gadarnhau eu caniatâd i chi gofrestru.  Bydd angen i chi gofrestru drwy ddefnyddio eich e-bost ysgol neu gyfeiriad Hwb yn unig.

Gwybodaeth defnyddio:

Caiff cwcis eu defnyddio i fonitro eich gweithgaredd ar y platfform, er enghraifft pa dudalennau rydych chi wedi ymweld â nhw.   Gweler  Gwybodaeth Cwcis am fanylion pellach.

Am ba mor hir rydyn ni’n cadw’r data personol?

Gwybodaeth cofrestru a defnyddio:

Gallwch chi ddileu eich cofrestriad ar y platfform ar unrhyw adeg ar gais drwy gysylltu â dpo@qualificationswales.org.  Bydd data personol yr ymatebwyr sydd wedi’u dileu yn cael eu cadw am hyd at 12 mis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer yr ymgynghoriad neu’r arolwg diwethaf yr ymatebwyd iddo.  Sylwch y gall Cymwysterau Cymru barhau i gadw manylion cyswllt rhanddeiliaid sy’n cynrychioli sefydliadau rhanddeiliaid allweddol lle bo angen ar gyfer ein tasg gyhoeddus (e.e. manylion cyswllt ar gyfer Penaethiaid Ysgolion).  Byddwn ni’n cadw manylion cyswllt y rhanddeiliaid allweddol hyn yn unol â’n hamserlen gadw ac am gyhyd ag sydd angen i gyflawni ein tasg gyhoeddus.

Gwybodaeth ymgysylltu:

Bydd ymatebion i ymgynghoriadau ac arolygon yn cael eu cadw yn unol â’n hamserlen gadw.

Gyda phwy rydyn ni’n rhannu gwybodaeth?

Mae darparwyr y platfform yma (Granicus) yn gweithredu fel proseswyr ar gyfer Cymwysterau Cymru ar gyfer y wybodaeth bersonol sydd ynddo.  

Gellir rhannu Gwybodaeth Bersonol hefyd â sefydliadau trydydd parti sydd wedi’u contractio i wneud gwaith i Cymwysterau Cymru (e.e. cwmnïau ymchwil sydd wedi’u contractio i ddadansoddi ymatebion) lle bo angen ar gyfer ein tasg gyhoeddus a amlinellir uchod.

Gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyswllt am ymatebwyr sy'n cynrychioli sefydliadau rhanddeiliaid allweddol gyda chyrff cyhoeddus eraill lle mae'n angenrheidiol ar gyfer ein tasg gyhoeddus (e.e. Swyddogion Cyfrifol Cyrff Dyfarnu gyda Llywodraeth Cymru).

Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth â sefydliadau eraill lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer ein tasg gyhoeddus.

 

Rhyddid Gwybodaeth

Sylwch, fel corff cyhoeddus, bod yr holl wybodaeth sydd gennym yn destun ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.  Byddwn ni’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU wrth ystyried ceisiadau am wybodaeth a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Eich Hawliau

Yn amodol ar rai eithriadau cyfreithiol, mae gennych hawl i:

  • wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol mae Cymwysterau Cymru yn ei chadw amdanoch chi
  • cywiro unrhyw gamgymeriadau
  • cael eich data personol wedi'i ddileu
  • gosod cyfyngiad ar ein gwaith o brosesu eich data
  • gwrthwynebu prosesu

Ar gais, gallwn ddileu data personol o’r ymatebion rydyn ni wedi’u casglu gan gynnwys unrhyw fanylion cyswllt neu bersonol a roddwyd wrth lenwi holiaduron ac unrhyw fanylion personol sydd wedi’u cynnwys yn nhestun eich ymatebion. 

I ddysgu mwy am yr hawliau hyn, gweler gwefan yr ICO.

Cyfeiriwch unrhyw geisiadau o'r fath at

Swyddog Diogelu Data Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru
Adeilad Q2, Lôn Pencarn,
Parc Imperial,
Coedcernyw
Casnewydd
 NP10 8AR

01633 373222

dpo@qualificationswales.org

Os ydych chi'n anfodlon gyda'n hymateb gallwch chi gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
 SK9 5AF