
Y rhestr gymeradwy ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
Cyn llenwi'r ffurflen hon i ofyn am ychwanegu camp neu weithgaredd corfforol at y rhestr gymeradwy ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd, darllenwch y canllawiau i ymgeiswyr.
Bydd ceisiadau a gyflwynir cyn diwedd Rhagfyr 2026 yn cael eu hystyried yng ngwanwyn 2027. Os yw'r cais yn llwyddiannus, bydd y gamp neu'r gweithgaredd corfforol yn cael ei ychwanegu at y rhestr gymeradwy ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau eu rhaglen astudio (fel arfer yn mynd i mewn i Flwyddyn 10) ym mis Medi 2027.
Bydd y ffurflen gais yn aros ar agor ar ôl y dyddiad hwn, ond ni fydd ceisiadau’n cael eu hystyried tan y flwyddyn ganlynol.
Creu cyfrif i gymryd rhan ar yr arolwg hwn
Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon
