Y rhestr gymeradwy ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd

Mae cymhwyster TGAU newydd gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd yn cael ei addysgu mewn ysgolion ledled Cymru o fis Medi 2026 ymlaen. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu ystod o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth mewn perthynas ag iechyd a lles, a chwaraeon a gweithgareddau corfforol, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ystyrlon a pherthnasol.

Bydd 60% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad, lle bydd yn rhaid i ddysgwyr:  

  • darparu hyfforddiant neu hyfforddiant personol i eraill mewn camp neu weithgaredd corfforol a ddewiswyd o restr gymeradwy

Mae'r rhestr gymeradwy wedi'i datblygu'n ofalus gyda mewnbwn gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys ymarferwyr, cynghorwyr pwnc, cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, a'r corff dyfarnu, CBAC.

Rydyn ni’n deall y gall y campau a'r gweithgareddau y mae dysgwyr yn cymryd rhan ynddynt newid dros amser, felly gall rhanddeiliaid ofyn i gamp neu weithgaredd corfforol gael ei ychwanegu at y rhestr gymeradwy gan ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Cyn cwblhau'r ffurflen, dylai rhanddeiliaid wneud yn siŵr nad yw'r gamp neu'r gweithgaredd eisoes wedi'i gynnwys ar y rhestr gymeradwy.

Rhaid i bob rhanddeiliad ddarllen y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr cyn cwblhau'r ffurflen. Mae'r ddogfen ganllaw hon yn esbonio'r wybodaeth sydd ei hangen yn y ffurflen (gan gynnwys y meini prawf), ac yn amlinellu sut a phryd y bydd cyflwyniadau'n cael eu hadolygu. Rhaid i bob camp neu weithgaredd corfforol gael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru a rhaid iddynt fodloni'r meini prawf ar gyfer asesu addasrwydd chwaraeon neu weithgareddau corfforol i gael eu cynnwys ar y rhestr gymeradwy.

Mae ceisiadau'n cael eu hadolygu'n flynyddol. Bydd pob cais a gyflwynir cyn diwedd mis Rhagfyr 2026 yn cael ei ystyried gan banel rhanddeiliaid yng ngwanwyn 2027. Os yw'r cais yn llwyddiannus, bydd y gamp neu'r gweithgaredd corfforol yn cael ei ychwanegu at y rhestr gymeradwy ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau eu rhaglen astudio (fel arfer yn mynd i mewn i Flwyddyn 10) ym mis Medi 2027.

Bydd y broses hon yn parhau yn flynyddol. Bydd angen i ysgolion, dysgwyr a/neu rieni gyflwyno cais yn nhymor yr hydref pan fydd dysgwr ym Mlwyddyn 9 (neu'n gynt). Bydd hyn yn galluogi i'r gamp neu'r gweithgaredd corfforol gael ei ystyried i'w gynnwys ar y rhestr gymeradwy cyn i ddysgwyr ddechrau eu rhaglen astudio.

  • Cyn llenwi'r ffurflen hon i ofyn am ychwanegu camp neu weithgaredd corfforol at y rhestr gymeradwy ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd, darllenwch y canllawiau i ymgeiswyr.  

    Bydd ceisiadau a gyflwynir cyn diwedd Rhagfyr 2026 yn cael eu hystyried yng ngwanwyn 2027. Os yw'r cais yn llwyddiannus, bydd y gamp neu'r gweithgaredd corfforol yn cael ei ychwanegu at y rhestr gymeradwy ar gyfer dysgwyr sy'n dechrau eu rhaglen astudio (fel arfer yn mynd i mewn i Flwyddyn 10) ym mis Medi 2027. 

    Bydd y ffurflen gais yn aros ar agor ar ôl y dyddiad hwn, ond ni fydd ceisiadau’n cael eu hystyried tan y flwyddyn ganlynol.  

    Arolwg
Diweddaru: 09 Sep 2026, 10:41 AC