Ymgynghoriad ar y gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd

Rydym yn ceisio barn ar gynigion sy'n ymwneud â dylunio cymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd i ddisodli'r cymwysterau UG a Safon Uwch cyfredol Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Cymraeg Ail Iaith. Yn benodol, rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n ymwneud â nodweddion dylunio allweddol y cymwysterau, gyda chynnwys ac asesiad wedi'u diweddaru.

Wrth lunio’r cynigion ar gyfer y cymwysterau, gwnaethom ystyried yn ofalus y cyd-destun polisi ehangach ar gyfer y Gymraeg. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y gall cymwysterau'r dyfodol yn y Gymraeg ei chwarae wrth helpu i wireddu'r uchelgais o gynyddu nifer y siaradwyr a'r defnyddwyr hyderus a medrus o'r Gymraeg.

Yn ogystal ag ystyriaethau penodol ar gyfer Cymraeg fel pwnc, rydym hefyd wedi ystyried yr angen i'r cymwysterau newydd gyd-fynd â'n gofynion rheoleiddio ar gyfer pob cymhwyster UG a Safon Uwch cymeradwy yng Nghymru.

Er mwyn ystyried effaith bosibl ein cynigion ar bobl sy'n byw yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, rydym wedi cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, ac wedi ceisio cyfranogiad ganddynt, trwy ein gweithgareddau ymgysylltu.

Ar gyfer pob cynnig, rydym yn gofyn i ba raddau rydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ac yn cynnig y cyfle i chi esbonio eich barn. Rydym hefyd yn darparu rhesymeg ar gyfer pob cynnig sy'n amlinellu'r ffactorau a'r meddwl a gyfrannodd at eu datblygiad. Rydym wedi cynnwys y cwestiynau ymgynghori perthnasol yn dilyn pob cynnig yn y ddogfen hon.

Rydym wedi cynhyrchu asesiad effaith integredig fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Gofynnwn am eich barn ar effaith bosibl ein cynigion, gan gynnwys unrhyw effaith ar unigolion neu grwpiau â nodweddion gwarchodedig ac ar yr iaith Gymraeg.

Yn dilyn dadansoddiad o'r ymatebion, byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi canfyddiadau ynghyd â'n penderfyniadau yn hydref 2025. Ochr yn ochr â'r adroddiadau hyn, rydym yn bwriadu cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo y bydd CBAC yn eu defnyddio i ddatblygu'r cymwysterau. Ein nod yw cymeradwyo manylebau cymwysterau CBAC, a'r deunyddiau asesu enghreifftiol cysylltiedig, erbyn hydref 2026 er mwyn sicrhau bod gan athrawon ddigon o amser i ymgyfarwyddo â'r cymwysterau newydd a fydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Darllenwch ein dogfen ymgynghori a'n hasesiad effaith integredig cyn cwblhau'r ymgynghoriad isod erbyn 12 Medi 2025.

Cyn ymateb i'r arolwg, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae'n broses syml sy’n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei gadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau neu arolygon, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.

  • Rydym yn annog ymatebwyr i gyfrannu eu barn ar bob cwestiwn yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys y rhai yn yr asesiad effaith integredig. Mae'n bwysig bod ein cynigion yn gwireddu'r effeithiau cadarnhaol yr ydym yn dymuno eu gweld ac yn lleihau unrhyw effeithiau negyddol gymaint â phosibl. 

    Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a dderbynnir. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad penderfyniadau a chrynodeb o'r ymatebion.  

    Yn ogystal â'n hadroddiad penderfyniadau, byddwn yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo terfynol ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd. Cyhoeddir y dogfennau hyn yn hydref 2025.  

    Ymgynghoriad
Diweddaru: 19 Meh 2025, 08:10 AC