Neidio i'r cynnwys
Ymgynghoriad ar y gofynion dylunio ar gyfer  UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg ac UG a Safon Uwch mewn Cymraeg Craidd

Ymgynghoriad ar y gofynion dylunio ar gyfer UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg ac UG a Safon Uwch newydd mewn Cymraeg Craidd

Rydym yn annog ymatebwyr i gyfrannu eu barn ar bob cwestiwn yn yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys y rhai yn yr asesiad effaith integredig. Mae'n bwysig bod ein cynigion yn gwireddu'r effeithiau cadarnhaol yr ydym yn dymuno eu gweld ac yn lleihau unrhyw effeithiau negyddol gymaint â phosibl. 

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn dadansoddi ac yn ystyried yr holl ymatebion a dderbynnir. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad penderfyniadau a chrynodeb o'r ymatebion.  

Yn ogystal â'n hadroddiad penderfyniadau, byddwn yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo terfynol ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd. Cyhoeddir y dogfennau hyn yn hydref 2025.