Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Mae astudio iaith a llenyddiaeth Saesneg gyda'i gilydd yn helpu dysgwyr i ganfod grym llenyddiaeth ac yn gosod cyd-destun ar gyfer astudio iaith. Mae’n eu hannog nhw i ymateb yn adeiladol i destunau, syniadau a safbwyntiau gwahanol.
Bydd TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn datblygu creadigrwydd, dychymyg, empathi a hyder drwy sgiliau cyfathrebu cryf.
Bydd y cymhwyster newydd yma'n rhoi cipolwg i ddysgwyr ar eu hunaniaethau diwylliannol eu hunain ac eraill, ynghyd â gwell dealltwriaeth o sut mae'r byd o'n cwmpas yn cael ei ffurfio gan iaith, syniadau a straeon ar draws diwylliannau, cyfnodau a lleoedd gwahanol.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Deall ac ymateb
Deall ac ymateb yn feirniadol i amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a llafar.
Gwneud cymariaethau rhwng gwahanol destunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.
Egluro sut mae iaith, strwythur a ffurf yn cyfrannu at gyflwyno gwybodaeth, syniadau a themâu.
Deall testunau ysgrifenedig a llafar yn eu cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol.
Mynegi a chyfathrebu
Cyfathrebu'n glir, yn effeithiol, ac yn llawn dychymyg.
Addasu cyfathrebu ar gyfer gwahanol gyd-destunau a chynulleidfaoedd.
Trefnu cyfathrebu i gefnogi rhesymeg a chydlyniad cyffredinol.
Defnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddegau ar gyfer eglurder, pwrpas, ac effaith, gyda gramadeg cywir ac, mewn cyfathrebu ysgrifenedig, atalnodi a sillafu.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd y corff dyfarnu'n penderfynu ar nifer yr asesiadau y bydd eu hangen ar gyfer y cymhwyster yn seiliedig ar y gofynion a gaiff eu hamlinellu gan Cymwysterau Cymru.
Bydd 40% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad:
Bydd 20% yn cael ei asesu drwy siarad a gwrando a bydd yn cynnwys tasgau unigol a grŵp.
Bydd 20% yn cael ei ddyrannu i asesiadau darllen ac ysgrifennu di-arholiad.
Bydd yr asesiadau yma’n cael eu marcio gan athrawon a'u cymedroli gan y corff dyfarnu.
Bydd y 60% sy'n weddill o'r cymhwyster yn cael ei asesu trwy arholiadau.
Rhaid sefyll pob arholiad ar ddiwedd y cwrs, a rhaid cyflwyno tasgau’r asesiad di-arholiad o fewn blwyddyn olaf y cwrs.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.