Mae astudio iechyd ac addysg gorfforol yn caniatáu i ddysgwyr gael profiad o ffyrdd y mae gweithgarwch corfforol yn gallu eu helpu nhw ac eraill i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Bydd TGAU Iechyd ac Addysg Gorfforol yn gymhwyster newydd eang a chynhwysol, sy'n annog dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth gysyniadol o iechyd a lles.
Trwy ddewis o lwybrau dysgu ymarferol, byddan nhw’n ennill gwybodaeth a sgiliau ymarferol i wella eu hymgysylltu a’u cyfraniad eu hunain, ac eraill, mewn ffordd egnïol ac iach o fyw.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Manteision gweithgareddau corfforol ar iechyd a lles dynol.
Dylanwadau cymdeithasol, diwylliannol a deietegol ar berfformiad chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Dimensiynau ffisiolegol a seicolegol.
Dadansoddi gweithgareddau corfforol a pherfformiad i gynllunio a gweithredu strategaethau gwella.
Datblygu sgiliau a thechnegau o ran perfformiad chwaraeon a gweithgareddau.
Monitro a gwerthuso cynnydd tuag at gyrraedd targedau chwaraeon a gweithgareddau.
Bydd tri llwybr ymarferol ar gael i ddysgwyr, gan annog dysgwyr sydd â gwahanol ddiddordebau a nodau i gymryd rhan:
Hyrwyddo a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon.
Hyfforddi a gweithgareddau hyfforddi personol.
Perfformiad mewn chwaraeon unigol a thîm.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad (40%) sy'n caniatáu i ddysgwyr ddangos a chymhwyso eu gwybodaeth am iechyd ac addysg gorfforol.
Asesiad di-arholiad (60%) sy'n caniatáu i ddysgwyr ddangos eu defnydd o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd dysgwyr yn gweithio o fewn un o'r tri llwybr ymarferol uchod wrth ymgymryd â’r asesiad yma. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.