Mae profi a defnyddio iaith arall yn cynnig ffordd wahanol i ddysgwyr edrych ar y byd o'u cwmpas a'i ddeall.
Bydd astudio iaith ryngwladol - gan gynnwys TGAU Ffrangeg, TGAU Almaeneg a TGAU Sbaeneg - yn helpu dysgwyr i ddeall sut mae ieithoedd yn gweithio, i weld y cysylltiadau rhyngddynt ac i gryfhau eu sgiliau cyfathrebu ar draws gwahanol ieithoedd a chyd-destunau.
Bydd y cymwysterau TGAU newydd hyn mewn ieithoedd rhyngwladol yn magu hyder a gwydnwch dysgwyr ac yn eu hannog i arbrofi ac i fentro. Bydd dysgu am gymdeithasau a diwylliannau eraill yn datblygu empathi a chwilfrydedd dysgwyr am ddiwylliannau a hunaniaethau eraill, gan eu helpu i fod yn ddinasyddion byd-eang gwybodus.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Deall ac ymateb
Deall ac ymateb i wahanol fathau o iaith lafar ac ysgrifenedig.
Nodi’r neges, pwyntiau allweddol, barn a manylion mewn amrywiaeth o ddarnau llafar ac ysgrifenedig.
Defnyddio gwybodaeth am ramadeg i gefnogi dealltwriaeth.
Mynegi a chyfathrebu
Cyfathrebu a rhyngweithio'n glir at amrywiaeth o ddibenion.
Cyfathrebu ystyr wrth siarad ac yn ysgrifenedig.
Defnyddio ynganiad cywir ar y cyfan er mwyn cyfathrebu â siaradwr yr iaith a gaiff ei hasesu.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd rhwng 45 a 50% o'r cymwysterau’n cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad:
Bydd 30% yn cael ei asesu trwy siarad a gwrando
Bydd rhwng 15% ac 20% yn canolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu
Bydd rhwng 50 a 55% o'r cymwysterau’n cael eu hasesu drwy arholiadau
Rhaid sefyll pob arholiad ar ddiwedd y cwrs, a rhaid cyflwyno tasgau’r asesiad di-arholiad o fewn blwyddyn olaf y cwrs.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymwysterau yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.