Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Mae astudio drama’n caniatáu i ddysgwyr brofi cyfathrebu corfforol a llafar mewn amrywiaeth o gyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol. Mae hefyd yn datblygu gwybodaeth ynglŷn â sut mae drama a theatr yn cael eu datblygu a’u perfformio.
Bydd TGAU Drama yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd trwy ddysgu drwy brofiad. Ochr yn ochr â hyn, byddan nhw’n cael arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol am amrywiaeth eang o ddrama sydd wedi eu creu a’u perfformio gan eraill.
Bydd y cymhwyster hwn yn ysbrydoli dysgwyr i sylwi ar eu profiadau, eu mynegi a’u rhannu’n hyderus.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â sut mae amrywiaeth eang o ddrama a theatr yn cael eu datblygu a’u perfformio gan eraill.
Defnyddio sgiliau theatrig wrth berfformio a/neu ddylunio, i gyfathrebu bwriadau artistig gyda rheolaeth a soffistigeiddrwydd.
Archwilio, creu a datblygu syniadau mewn ymateb i symbyliad i wireddu bwriadau artistig mewn perfformio a dylunio.
Myfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill a’i werthuso.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad gwerth 30%o’r cymhwyster, yn targedu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol sylfaenol.
Bydd yr arholiad yma’n cynnwys asesiad digidol, ar-y-sgrîn.
Uned perfformiad ymarferol gwerth 30% o’r cymhwyster, a gaiff ei gosod gan y corff dyfarnu a’i marcio gan y corff dyfarnu, gyda’r opsiwn i ddysgwyr gael eu hasesu ar eu perfformiad neu eu sgiliau dylunio.
Uned dyfeisio gwerth 40% o’r cymhwyster a gaiff ei gosod gan y corff dyfarnu, a gaiff ei marcio gan athrawon a’i chymedroli gan y corff dyfarnu, gyda’r opsiwn i ddysgwyr gael eu hasesu ar eu perfformiad neu eu sgiliau dylunio.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.