TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

Mae astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda'i gilydd yn helpu dysgwyr i ganfod grym llenyddiaeth ac yn gosod cyd-destun ar gyfer astudio iaith. Mae’n eu hannog nhw i ymateb yn adeiladol i destunau, syniadau a safbwyntiau gwahanol.

Bydd TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn datblygu creadigrwydd, dychymyg, empathi a hyder drwy sgiliau cyfathrebu cryf.

Bydd y cymhwyster newydd yma'n rhoi cipolwg i ddysgwyr ar eu hunaniaethau diwylliannol eu hunain ac eraill, ynghyd â gwell dealltwriaeth o sut mae'r byd o'n cwmpas yn cael ei ffurfio gan iaith, syniadau a straeon ar draws diwylliannau, cyfnodau a lleoedd gwahanol.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Deall ac ymateb

  • Deall ac ymateb yn feirniadol i amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a llafar.
  • Gwneud cymariaethau rhwng gwahanol destunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.
  • Egluro sut mae iaith, strwythur a ffurf yn cyfrannu at gyflwyno gwybodaeth, syniadau a themâu.
  • Deall testunau ysgrifenedig a llafar yn eu cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol.

Mynegi a chyfathrebu

  • Cyfathrebu'n glir, yn effeithiol, ac yn llawn dychymyg.
  • Addasu cyfathrebu ar gyfer gwahanol gyd-destunau a chynulleidfaoedd.
  • Trefnu cyfathrebu i gefnogi rhesymeg a chydlyniad cyffredinol.
  • Defnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddegau ar gyfer eglurder, pwrpas, ac effaith, gyda gramadeg cywir ac, mewn cyfathrebu ysgrifenedig, atalnodi a sillafu.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Bydd y corff dyfarnu'n penderfynu ar nifer yr asesiadau y bydd eu hangen ar gyfer y cymhwyster yn seiliedig ar y gofynion a gaiff eu hamlinellu gan Cymwysterau Cymru.
  • Bydd 40% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad:
    • Bydd 30% yn cael ei asesu drwy siarad a gwrando a bydd yn cynnwys tasgau unigol a grŵp.
    • Bydd 10% yn cael ei ddyrannu i asesiadau darllen ac ysgrifennu di-arholiad.
    • Bydd yr asesiadau yma’n cael eu marcio gan yr ysgol a'u cymedroli gan y corff dyfarnu.
  • Bydd y 60% sy'n weddill o'r cymhwyster yn cael ei asesu trwy arholiadau.
  • Rhaid sefyll pob arholiad ar ddiwedd y cwrs, a rhaid cyflwyno tasgau’r asesiad di-arholiad o fewn blwyddyn olaf y cwrs.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 01:44 PM