Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Mae astudio Cymraeg yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gael profiad o ddiwylliant Cymru a’i fwynhau ac i ddod yn ddefnyddwyr Cymraeg hyderus.
Bydd y TGAU Cymraeg Craidd newydd yn datblygu hyder, uchelgais, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, creadigrwydd ac empathi dysgwyr. Byddan nhw'n dysgu sut mae iaith yn gweithio ac yn datblygu sgiliau a fydd yn cryfhau eu sgiliau cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.
Bydd y cymhwyster yma’n helpu dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg i fyfyrio ar eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ac i ddeall sut mae'r byd o'n cwmpas wedi'i ffurfio gan iaith, syniadau a phrofiadau o ddiwylliannau, cyfnodau a lleoedd gwahanol.
Bydd ffocws cryf ar siarad a gwrando yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Deall ac ymateb
Deall ac ymateb yn feirniadol i amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a llafar.
Gwneud cymariaethau rhwng testunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.
Cyfleu meddyliau, teimladau a barn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Deall testunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.
Mynegi a chyfathrebu
Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol mewn cyd-destunau gwahanol.
Addasu cyfathrebu ar gyfer gwahanol gyd-destunau a chynulleidfaoedd.
Trefnu cyfathrebu i gefnogi rhesymeg a chydlyniad cyffredinol.
Defnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddegau ar gyfer eglurder, pwrpas ac effaith, gyda gramadeg cywir ac, mewn cyfathrebu ysgrifenedig, atalnodi a sillafu.
Defnyddio sgiliau cyfieithu i wella cyfathrebu.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd 50% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad
Bydd y tasgau asesu yma’n cael eu hasesu drwy siarad (30%) a gwrando (20%).
Bydd pob tasg asesu yn gofyn i ddysgwyr gyfathrebu a rhyngweithio ar lafar mewn modd digymell.
Bydd 50% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy arholiadau allanol
Bydd 25% yn cael ei asesu drwy ddarllen
Bydd 25% yn cael ei asesu drwy ysgrifennu
Rhaid sefyll pob arholiad ar ddiwedd y cwrs, a rhaid cyflwyno tasgau’r asesiad di-arholiad o fewn blwyddyn olaf y cwrs.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.