TGAU Cymraeg Craidd

Mae astudio Cymraeg yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gael profiad o ddiwylliant Cymru a’i fwynhau ac i ddod yn ddefnyddwyr Cymraeg hyderus.

Bydd y TGAU Cymraeg Craidd newydd yn datblygu hyder, uchelgais, ymwybyddiaeth ddiwylliannol a hunaniaeth, creadigrwydd ac empathi dysgwyr. Byddan nhw'n dysgu sut mae iaith yn gweithio ac yn datblygu sgiliau a fydd yn cryfhau eu sgiliau cyfathrebu mewn ieithoedd eraill.

Bydd y cymhwyster yma’n helpu dysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg i fyfyrio ar eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain ac i ddeall sut mae'r byd o'n cwmpas wedi'i ffurfio gan iaith, syniadau a phrofiadau o ddiwylliannau, cyfnodau a lleoedd gwahanol.

Bydd ffocws cryf ar siarad a gwrando yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Deall ac ymateb

  • Deall ac ymateb yn feirniadol i amrywiaeth o destunau ysgrifenedig a llafar.
  • Gwneud cymariaethau rhwng testunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.
  • Cyfleu meddyliau, teimladau a barn mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • Deall testunau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar.

Mynegi a chyfathrebu

  • Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol mewn cyd-destunau gwahanol.
  • Addasu cyfathrebu ar gyfer gwahanol gyd-destunau a chynulleidfaoedd.
  • Trefnu cyfathrebu i gefnogi rhesymeg a chydlyniad cyffredinol.
  • Defnyddio amrywiaeth o strwythurau brawddegau ar gyfer eglurder, pwrpas ac effaith, gyda gramadeg cywir ac, mewn cyfathrebu ysgrifenedig, atalnodi a sillafu.
  • Defnyddio sgiliau cyfieithu i wella cyfathrebu.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Bydd 50% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad
    • Bydd y tasgau asesu yma’n cael eu hasesu drwy siarad (30%) a gwrando (20%).
    • Bydd pob tasg asesu yn gofyn i ddysgwyr gyfathrebu a rhyngweithio ar lafar mewn modd digymell.
  • Bydd 50% o'r cymhwyster yn cael ei asesu drwy arholiadau allanol
    • Bydd 25% yn cael ei asesu drwy ddarllen
    • Bydd 25% yn cael ei asesu drwy ysgrifennu
  • Rhaid sefyll pob arholiad ar ddiwedd y cwrs, a rhaid cyflwyno tasgau’r asesiad di-arholiad o fewn blwyddyn olaf y cwrs.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:10 PM