Gwasanaethau Arbenigwyr Pwnc
Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am Arbenigwyr Pwnc fydd yn cael eu talu i gefnogi ein proses fonitro flynyddol ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch.
Rydyn ni’n contractio arbenigwyr pwnc allanol yn rheolaidd i gefnogi ein gwaith diwygio, cymeradwyo a monitro, er mwyn sicrhau bod system gymwysterau Cymru yn diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr. Mae'r ystod o arbenigwyr rydyn ni’n eu defnyddio yn cynnwys athrawon profiadol, arholwyr, academyddion, gweithwyr proffesiynol ym maes asesu, ac arbenigwyr o ddiwydiannau galwedigaethol.
Rydyn ni bellach yn chwilio am unigolion sydd â gwybodaeth a phrofiad manwl o addysg ac asesu, ac o sut y caiff cymwysterau eu haddysgu a'u hasesu, ynghyd â dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r ystod eang o arbenigedd pwnc sydd ei angen arnom yn cynnwys Mathemateg a Rhifedd, y Gwyddorau, Cymraeg, Saesneg, Hanes, Astudiaethau Cymdeithasol, Drama, Technoleg Ddigidol ac ieithoedd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contract am dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gallent gael cynnig projectau penodol, yn amodol ar eu hargaeledd. Byddan nhw’n gontractwyr annibynnol yn hytrach nag yn weithwyr, ac ni fydd yn ofynnol iddyn nhw fod ar gael yn barhaus am gyfnod y contract. Telir cyfradd ddyddiol o £300 neu £400 i arbenigwyr dan gontract, yn dibynnu ar y gweithgaredd penodol.
Mae manylion llawn am yr arbenigedd pwnc rydyn ni’n chwilio amdano, a sut i wneud cais, ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru: Arbenigwyr Pwnc | Cymwysterau Cymru
Fel rhan o'r cais, bydd gofyn i chi:
- lawrlwytho a darllen y cyfarwyddiadau
- darparu eich manylion
- darparu unrhyw ddatganiadau i ni
- uwchlwytho eich ffurflen ymateb wedi'i chwblhau
- uwchlwytho eich CV
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cliciwch ar y botwm ‘Cwestiynau’ a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.
I wneud cais i fod yn Arbenigwr Pwnc, cwblhewch y ffurflen gais isod.
Bydd ceisiadau'n cau am hanner dydd, ddydd Gwener 15 Ionawr 2027.

Diolch am eich cyfraniad!
Helpwch ni i estyn allan at fwy o bobl yn y gymuned
Rhannu hwn gyda theulu a ffrindiau