Grŵp Cynghori ar Ymchwil

Mae gan Cymwysterau Cymru Grŵp Cynghori ar Ymchwil sy'n ein helpu ni i ddatblygu ein swyddogaeth ymchwil.

Mae ail dymor y grŵp hwn wedi dod i ben, ac felly rydyn ni’n chwilio am arbenigwyr i barhau â gwaith y grŵp ar gyfer y tymor nesaf.

Prif rôl y grŵp hwn yw rhoi cyngor a her ar brojectau unigol yn ogystal â chynllun ymchwil y sefydliad cyfan. Bydd cyngor ynghylch projectau ymchwil unigol yn cynnwys agweddau ar ddylunio ymchwil, methodoleg, dadansoddi ac adrodd ar ganfyddiadau.

Gofynnir i aelodau hefyd gymryd rhan yn ymchwil y grŵp, naill ai eu hymchwil eu hunain neu o'r maes ehangach, a allai fod o ddiddordeb i Cymwysterau Cymru.

Mae angen rhwng pump ac wyth o unigolion sydd â gwybodaeth ac arbenigedd ym maes asesu/cymwysterau ac ymchwil i eistedd ar ein panel.

I wneud cais i ddod yn rhan o'n Grŵp Cynghori ar Ymchwil, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais isod.

Fel rhan o'r cais, bydd gofyn i chi:

Y dyddiad olaf i wneud cais yw 10am ar 30 Mawrth 2026.

Dim ond pan fydd eich CV a'ch ffurflen ymateb wedi'u cwblhau ac yn barod i'w huwchlwytho y dylech chi ddechrau'r cais gan na allwch arbed eich cynnydd ar y cais.

Cliciwch ar yr opsiwn 'Cwestiynau' isod i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm neu cliciwch ar 'Dechrau cais'.

Holwch ni am y Grŵp Cynghori ar Ymchwil

Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu eich cwestiwn.

Diweddaru: 09 Mar 2026, 02:02 PM