Cyfle i ddweud eich dweud ar ddiwygiadau i gymwysterau 14-16 yng Nghymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi comisiynu Alma Economics i werthuso'r newidiadau parhaus sy'n cael eu gwneud i TGAU a chymwysterau eraill ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru. Dros y tair blynedd nesaf, byddant yn archwilio sut mae'r newidiadau wedi'u cyflwyno mewn ysgolion, a pha wahaniaethau mae'r newidiadau yn eu gwneud. Gallwch ddarllen mwy am y gwerthusiad yma.

Os ydych chi'n arweinydd ysgol, athro neu'n ymwneud â chyflawni'r cymwysterau hyn, cwblhewch yr arolwg hwn. Yn ogystal â chwblhau'r arolwg, byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i gasglu adborth dysgwyr gan eich dysgwyr Blwyddyn 10. Cysylltwch â thîm Alma Economics yma i gael mynediad i'r arolwg.

Os ydych chi'n rhiant / gofalwr sy'n cefnogi dysgwyr ym mlwyddyn 10 sy'n profi'r cymwysterau hyn, cwblhewch yr arolwg hwn.

Ni fydd yr arolwg yn cymryd mwy na 10 munud ac mae'n ddienw. Bydd eich mewnbwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddeall proses ac effaith y diwygiadau i gymwysterau. 

Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Ionawr 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech siarad ag aelod o dîm Alma Economics i gael cyngor pellach, gallwch gysylltu â'r Arweinydd Ymchwil, Caitlin Allen ar Caitlin.allen@almaeconomics.com

Diweddaru: 05 Jan 2026, 03:13 PM