Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Cynlluniwyd y Grant Cymorth i'r Gymraeg i gynorthwyo cyrff dyfarnu cydnabyddedig gyda galluogi dysgwyr i ymgymryd â chymwysterau rheoleiddiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd ffenestr ymgeisio 2026/27 y Grant Cymorth i'r Gymraeg ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 26 Ionawr tan 27 Chwefror.
Er ein bod yn annog ymgeiswyr i ystyried a ydynt yn medru cwblhau'r holl weithgareddau y gwneir cais amdanynt o fewn blwyddyn ariannol 2026/27, byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer rhaglenni gwaith tymor canolig a hwy a allai gynnwys datblygiadau cynyddrannol sy’n mynd y tu hwnt i un flwyddyn ariannol.
Rydym yn cadw'r hawl i dderbyn ceisiadau y tu allan i'r ffenestr ymgeisio, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ar y pryd. Rydym felly yn argymell bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau - sef canol nos ar 27 Chwefror 2026.
Cyn cyflwyno cais:
Darllenwch ein dogfen Canllawiau'r Cais a chymryd amser i bori drwy'r dolenni defnyddiol a'r Cwestiynau Cyffredin, sydd i'w gweld ar ochr dde'r dudalen hon.
Lawrlwythwch a chwblhau copi o'r daenlen Gwybodaeth Ychwanegol (gofynnir i chi atodi hon i'ch cais ac ni fydd modd ei gyflwyno hebddi hi).
Rydych chi nawr yn barod i fwrw ymlaen gyda'ch cais a dylech chi glicio ar y botwm 'Cwblhau'r Ffurflen Gais' isod. Sylwch y bydd modd i chi gadw eich cynnydd ac ailgydio yn y cais yn ddiweddarach os bydd angen.
Os bydd gennych chi gwestiwn neu ymholiad ynghylch eich cais i'r Grant Cymorth i'r Gymraeg, cysylltwch â’n Tîm Grantiau drwy: grantiau@cymwysterau.cymru.
AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.