Y Grant Cymorth i’r Gymraeg

Cynlluniwyd y Grant Cymorth i'r Gymraeg i gynorthwyo cyrff dyfarnu cydnabyddedig gyda galluogi dysgwyr i ymgymryd â chymwysterau rheoleiddiedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd ffenestr ymgeisio 2025/26 y Grant Cymorth i'r Gymraeg ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 13 Ionawr tan 28 Chwefror.

Er ein bod yn annog ymgeiswyr i ystyried a ydynt yn medru cwblhau'r holl weithgareddau y gwneir cais amdanynt o fewn blwyddyn ariannol 2025/26, byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer rhaglenni gwaith tymor canolig a hwy a allai gynnwys datblygiadau cynyddrannol sy’n mynd y tu hwnt i un flwyddyn ariannol.

Rydym yn cadw'r hawl i dderbyn ceisiadau y tu allan i'r ffenestr ymgeisio, fodd bynnag bydd hyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ar y pryd. Rydym felly yn argymell bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau - sef canol nos ar 28 Chwefror 2025.

Cyn cyflwyno cais:

  1. Darllenwch ein dogfen Canllawiau'r Cais a chymryd amser i bori drwy'r dolenni defnyddiol a'r Cwestiynau Cyffredin, sydd i'w gweld ar ochr dde'r dudalen hon.
  2. Lawrlwythwch a chwblhau copi o'r daenlen Gwybodaeth Ychwanegol (gofynnir i chi atodi hon i'ch cais ac ni fydd modd ei gyflwyno hebddi hi).

Rydych chi nawr yn barod i fwrw ymlaen gyda'ch cais a dylech chi glicio ar y botwm 'Cwblhau Ffurflen Gais' isod. Sylwch y bydd modd i chi gadw eich cynnydd ac ailgydio yn y cais yn ddiweddarach os bydd angen.

Os bydd gennych chi gwestiwn neu ymholiad ynghylch eich cais i'r Grant Cymorth i'r Gymraeg, cysylltwch â’n Tîm Grantiau drwy: grantiau@cymwysterau.cymru.

Cyhoeddi: 13 Jan 2025, 09:17 AC