Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16
Dyma’r lle i roi gwybod i ni am beth ydi’ch barn am ein cynlluniau ar gyfer y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 – 16.
Dyma’r tri chynnig:
Cyfres Sgiliau - cyfuno cymhwyster Prosiect Sgiliau Cyfannol ac unedau Sgiliau ar gyfer Bywyd a Sgiliau ar gyfer Gwaith. Bydd y Gyfres Sgiliau yn adeiladu ac yn cymryd lle'r cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau ac yn cymryd lle unrhyw gymwysterau cyn-16 sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus sy’n asesu sgiliau cyfannol. Bydd y cymwysterau Gwneud-i-Gymru yma yn amrywio o Sylfaen i Lefel 2. Bydd unedau sydd â thystysgrif unigol yn galluogi dysgwyr i ymgymryd â cyfundeb gwahanol I gyflawni cymwysterau sy’n amrywio o ran maint a lefel.
Cymwysterau Cynalwedigaethol - darparu dewis o gymwysterau cynalwedigaethol, cynhwysol, dwyieithog o lefel Sylfaen i Lefel 2. Y rhain fydd yr unig gymwysterau galwedigaethol cyn-16 sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus ar gael. Bydd y rhain yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn defnyddio dulliau wedi seilio ar ymarfer a golwg ar feysydd gwaith eang, gan ddarparu sylfaen eang ar gyfer cynnydd ar gyfer astudiaeth ar ol-16 a phrentisiaethau.
Cymwysterau Sylfaen - cymwysterau newydd Sylfaen a Lefel 1, i gymryd lle TGAU Gwneud-i-Gymru ar gyfer dysgwyr sydd o bosib ddim yn barod i sefyll TGAU ymhob pwnc. Bydd y cymwysterau yma yn adnabod yr hyn maent yn gyflawni, profiadau ac yn cefnogi cynnydd i ddysgu ôl-16, gan alluogi dysgwyr i wneud y cynnydd gorau bosib. Y rhain fydd yr unig gymwysterau Sylfaen ar gael mewn pynciau perthnasol ar yr un lefelau.
Nawr rydym eisiau gwybod eich barn am y cynigion yma.
Gallwch Ddweud Eich Dweud ar bob un o’r tri chynnig yn ein harolwg neu ymatebwch i'r meysydd sydd o fwyaf o ddiddordeb i chi.
Os ydych yn dymuno, mae’n bosib y byddwch yn ei gweld yn ddefnyddiol darllen ein cynigion manwl, llawn ar gyfer Y Gyfres Sgiliau, Cymwysterau Cynalwedigaethol, Cymwysterau Sylfaen a’n Asesiad Effaith Integredig.
Does ddim angen i chi gwblhau’r arolwg llawn – gallwch fethu cwestiynau fel ydych yn pori drwyddo.
Cwblhewch yr arolwg isod.