Trosolwg o’n Gwaith Diwygio
Yn ogystal â holi am gynigion dylunio’r cymwysterau unigol, rydyn ni am glywed eich barn ar y cynigion yn gyffredinol.
Mae’r arolwg ar waelod yr adran hon yn gofyn a fydd y set newydd hon o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig, yn gyffredinol, yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ac yn diwallu anghenion dysgwyr.
Ein bwriad yw i’r cynigion dylunio ar gyfer cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd gynnig:
- Cynnwys newydd sy'n adlewyrchu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau y bydd dysgwyr yn eu cael o astudio'r Cwricwlwm i Gymru
- Cynnwys ac asesiadau hyblyg i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwla eu hunain a diwallu anghenion eu dysgwyr
- Cymysgedd wahanol o ddulliau asesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau a mwy o gyfleoedd i ddysgwyr gael eu hasesu yn ystod eu cwrs astudio
- Defnydd mwy effeithiol o dechnoleg ddigidol mewn asesiadau
I weld sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu ar gyfer pob pwnc, darllenwch y cynigion dylunio unigol. I gael trosolwg cyffredinol o'r newidiadau arfaethedig, edrychwch ar ein fersiwn o’r ymgynghoriad hwn sy'n addas ar gyfer pobl ifanc.
Rydyn ni hefyd wedi paratoi asesiad effaith integredig o sut y gallai'r cynigion hyn effeithio ar ddysgwyr, ysgolion ac eraill, a sut y gallen ni weithio mewn partneriaeth i liniaru unrhyw effeithiau negyddol.
Addas at y diben
Mae cynigion yr ymgynghoriad hwn wedi'u cyd-adeiladu drwy gydweithio helaeth ag athrawon, academyddion, dysgwyr ac eraill.
Mae’r holl gynigion wedi’u hanelu at gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru sydd â’r nod o helpu dysgwyr i ddod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Rydyn ni am i’r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd i helpu dysgwyr i wireddu'r dibenion hyn.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydyn ni wedi cytuno y dylid dylunio pob TGAU newydd i:
- Gefnogi dysgu ac addysgu drwy ddarparu cynnwys sy’n briodol o eang, heriol, perthnasol a diddorol sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru a’i bedwar diben
- Caniatáu i ddysgwyr ddatblygu sylfaen gref o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy'n cefnogi dilyniant i astudiaeth ôl-16 a'u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith
- Rhoi gwybodaeth ystyrlon, teg a chywir am gyflawniad dysgwyr o fewn pwnc sy'n tynnu sylw at yr hyn y mae dysgwyr yn ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud
Mae'r cynnig dylunio ar gyfer pob cymhwyster yn adeiladu ar y dibenion cyffredin hyn.
Trwy gyd-adeiladu, rydyn ni hefyd wedi cytuno y dylai cymwysterau TGAU newydd:
- Helpu dysgwyr i wireddu dibenion y Cwricwlwm i Gymru
- Cynnig hyblygrwydd a dewis i gefnogi cwricwlwm pob ysgol a dewis dysgwyr
- Cefnogi cynnydd dysgwyr yn unol ag egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru
- Galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg a hyfforddiant ôl-16
- Cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
- Hyrwyddo profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol
- Annog dysgwyr i wneud cysylltiadau cryf ar draws eu dysgu
- Cynnwys asesiadau perthnasol, dilys a gafaelgar
- Adlewyrchu amrywiaeth dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
- Gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.
Dysgu ac addysgu
Gofynnwyd i randdeiliaid a fu’n ymwneud â llunio’r cynigion hyn ganolbwyntio ar sut y gallai dylunio cymwysterau gefnogi dysgu ac addysgu cadarnhaol yn unol â chanllawiau Cwricwlwm i Gymru. Mae'r cynigion felly'n cynnwys disgrifiad o'r profiadau y bydd dysgwyr yn eu cael o astudio cymhwyster, yn ogystal â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y byddan nhw’n eu hennill.
Mae’r cynigion hefyd yn nodi cyfleoedd i ddysgwyr ymwneud â themâu trawsgwricwlaidd y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys:
- Hawliau dynol
- Amrywiaeth
- Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith
- Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Hyblygrwydd a dewis
Yn gyffredinol, nod y cynigion hyn yw rhoi mwy o hyblygrwydd o ran beth a sut y bydd dysgwyr yn astudio. Bydd hyn yn rhoi mwy o ryddid i ysgolion deilwra cyrsiau a dulliau addysgu ar gyfer eu cwricwlwm eu hunain, ac i adlewyrchu anghenion a dewisiadau eu dysgwyr.
Asesu cymysg
Ar y cyfan, mae'r cynigion yn adlewyrchu cymysgedd ehangach a mwy amrywiol o ddulliau asesu na'r TGAU presennol. Mae'r holl bynciau yn cynnwys cymysgedd cytbwys o arholiadau ac asesu di-arholiad - heblaw am TGAU Celf a Dylunio (100% asesiad di-arholiad) a TGAU Mathemateg a Rhifedd (100% arholiad).
Mae'r trefniadau asesu arfaethedig ar gyfer pob pwnc yn adlewyrchu ystyriaeth ofalus o ffactorau gwahanol. Y nod yw i asesu fod yn briodol i gynnwys y pwnc, yn berthnasol ac yn ddiddorol i ddysgwyr, ac yn hydrin i ysgolion, gan ddarparu canlyniadau teg, cywir a dibynadwy ar yr un pryd. Darllenwch fwy am sut y gwnaethom ni benderfynu ar y cydbwysedd asesu arfaethedig ar gyfer pob pwnc.
Asesu digidol
Mae’r cynigion ar gyfer pob pwnc yn nodi sut y gallai technoleg ddigidol helpu i wneud asesu yn fwy deniadol a pherthnasol i ddysgwyr, a sut y gallai wneud asesiadau’n fwy effeithlon i’w gweinyddu ac yn fwy gwydn i heriau, fel y rhai a brofwyd yn ystod y pandemig.
Ar gyfer rhai pynciau rydyn ni’n cynnig cyflwyno asesiad ar y sgrîn. Ar gyfer eraill, rydyn ni’n awgrymu sut y gallai technoleg ddigidol gael ei defnyddio i greu, cipio a chyflwyno tystiolaeth i gefnogi asesiadau di-arholiad.
Cefnogi ysgolion
Gall yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i ysgolion a dysgwyr i gymryd gwahanol fathau o asesiadau amrywio. Mae asesiadau di-arholiad yn cymryd llawer o wahanol ffurfiau, mae rhai yn cael eu cwblhau dros sawl diwrnod neu wythnos, ac eraill yn ddigwyddiadau untro. Caiff rhai eu marcio gan athrawon a'u cymedroli gan y corff dyfarnu, tra bod eraill yn cael eu marcio'n uniongyrchol gan y corff dyfarnu.
Mae'r cynigion yn nodi cyfleoedd i ysgolion reoli sut a phryd y bydd dysgwyr yn cwblhau eu hasesiadau. Ynghyd â'r newid cyffredinol i ffwrdd o asesiad sy'n seiliedig ar arholiadau, bydd y dull hwn yn helpu i leihau'r pwysau ar ddysgwyr ac athrawon sy'n gysylltiedig ag asesu.
Asesu effeithiau
Rydyn ni wedi ystyried yr effeithiau posibl – gan gynnwys yr effeithiau cronnus – y gallai gweithredu'r cynigion hyn eu cael ar ddysgwyr, ysgolion, sefydliadau dyfarnu, darparwyr dysgu ôl-16 ac eraill.
Rydyn ni hefyd wedi ystyried sut y gallen ni weithio gydag eraill i leihau risgiau posibl ac effeithiau negyddol.
Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni wedi defnyddio canlyniadau cyd-adeiladu a'n hymgysylltiad ehangach â dysgwyr a rhanddeiliaid eraill, ynghyd ag amrywiaeth o ymchwil a thystiolaeth gynradd ac eilaidd.
Rydyn ni wedi cyfuno ein hasesiad o'r effeithiau rheoleiddiol, cydraddoldeb, a’r Gymraeg yn un Asesiad Effaith Integredig. Mae hyn yn cynnwys asesiad o effeithiau posibl sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol, a golwg ar sut y gallai'r diwygiadau hyn wella lles cenedlaethau'r dyfodol a chefnogi a hyrwyddo hawliau plant. Rydyn ni hefyd yn ystyried effeithiau posibl peidio â gwneud y newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad.
Mae rhai o'r effeithiau allweddol rydyn ni wedi'u nodi yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â:
- Chydbwysedd cyffredinol arholiadau ac asesiadau di-arholiad - gan gynnwys pryd bydd asesiadau'n digwydd
- Defnyddio technoleg ddigidol
- Adnoddau o fewn ysgolion a chyrff dyfarnu
- Argaeledd deunyddiau addysgu a dysgu dwyieithog a hyfforddiant
- Parodrwydd ysgolion
- Cymharu â TGAU sy’n cael eu hastudio mewn awdurdodaethau eraill
- Dilyniant ôl-16 - gan gynnwys dysgwyr yn ailsefyll TGAU
- Ffioedd cymwysterau
- Maint cymwysterau
- Ymgeiswyr preifat
Mae ein hasesiad o effeithiau ar gydraddoldeb yn cynnwys adolygiad o sut y gall y mathau o asesu sydd wedi’u cynnwys yn y cynigion effeithio ar ddysgwyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Cwblhewch yr arolwg isod i roi eich barn ar ein gwaith diwygio TGAU yn ogystal ag effeithiau posibl y cynigion hyn – gan gynnwys sut rydych chi'n meddwl y gellid osgoi neu leihau unrhyw effeithiau negyddol.