Mae’r cymhwyster hwn yn adeiladu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiadau blaenorol dysgwyr er mwyn rhoi’r sgiliau mathemateg a rhifedd maen nhw eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd ac astudio ymhellach.
ByddTGAU Mathemateg a Rhifedd yn cynnig profiad diddorol a chyffrous i ddysgwyr gan eu helpu i ddatblygu fel mathemategwyr hyderus gydag agwedd ac awydd cadarnhaol tuag at y pwnc.
Bydd yn annog dysgwyr i fod yn greadigol, yn hyblyg a gwydn wrth fynd i’r afael â phroblemau mathemategol a gwerthfawrogi sut y gall rhain eu helpu mewn cyd-destunau yn y byd go iawn.
Beth fydd y dysgwyr yn ei astudio?
Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn defnyddio eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau yn y meysydd canlynol:
Rhif
Algebra
Geometreg a Mesurau
Ystadegau a Thebygolrwydd.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd y cymhwyster yn asesu gallu dysgwyr i:
Alw i gof a defnyddio eu gwybodaeth o’r cynnwys mathemategol penodedig.
Dewis a defnyddio dulliau mathemategol.
Dangos cymhwysedd strategol drwy wneud cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar fathemateg a defnyddio sgiliau mathemategol mewn cyd-destunau anghyfarwydd.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd y cymhwyster yma’n cael ei asesu’n gyfan gwbl trwy arholiadau.
Bydd arholiadau mewn haenau. Rydyn ni am gael eich barn ynghylch a ddylai fod dwy neu dair haen mynediad.
Bydd cyfle i gynnal asesiad fesul cam, sy'n golygu y gall dysgwyr gael eu hasesu ar unedau unigol tra bod y cwrs yn dal i gael ei ddysgu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.