TGAU Iechyd ac Addysg Gorfforol

Mae astudio iechyd ac addysg gorfforol yn caniatáu i ddysgwyr gael profiad o ffyrdd y mae gweithgarwch corfforol yn gallu eu helpu nhw ac eraill i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol.

Bydd TGAU Iechyd ac Addysg Gorfforol yn gymhwyster newydd eang a chynhwysol, sy'n annog dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth gysyniadol o iechyd a lles.

Trwy ddewis o lwybrau dysgu ymarferol, byddan nhw’n ennill gwybodaeth a sgiliau ymarferol i wella eu hymgysylltu a’u cyfraniad eu hunain, ac eraill, mewn ffordd egnïol ac iach o fyw.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Manteision gweithgareddau corfforol ar iechyd a lles dynol.
  • Dylanwadau cymdeithasol, diwylliannol a deietegol ar berfformiad chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
  • Dimensiynau ffisiolegol a seicolegol.
  • Dadansoddi gweithgareddau corfforol a pherfformiad i gynllunio a gweithredu strategaethau gwella.
  • Datblygu sgiliau a thechnegau o ran perfformiad chwaraeon a gweithgareddau.
  • Monitro a gwerthuso cynnydd tuag at gyrraedd targedau chwaraeon a gweithgareddau.

Bydd tri llwybr ymarferol ar gael i ddysgwyr, gan annog dysgwyr sydd â gwahanol ddiddordebau a nodau i gymryd rhan:

  • Hyrwyddo a chyflwyno gweithgareddau corfforol a chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon.
  • Hyfforddi a gweithgareddau hyfforddi personol.
  • Perfformiad mewn chwaraeon unigol a thîm.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  1. Arholiad (40%) sy'n caniatáu i ddysgwyr ddangos a chymhwyso eu gwybodaeth am iechyd ac addysg gorfforol.
  2. Asesiad di-arholiad (60%) sy'n caniatáu i ddysgwyr ddangos eu defnydd o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd dysgwyr yn gweithio o fewn un o'r tri llwybr ymarferol uchod wrth ymgymryd â’r asesiad yma. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:22 PM