Mae astudio iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn gallu agor llawer o lwybrau dysgu a gyrfa buddiol, o weithio mewn addysg blynyddoedd cynnar neu nyrsio, i rolau cymorth yn y gymuned leol neu ofalu am bobl hŷn.
Bydd TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn caniatáu dysgwyr i ddeall y ffordd orau o ddarparu gofal a chymorth i eraill ar wahanol adegau yn eu bywydau. Gall darparu gofal effeithiol i rywun wneud gwahaniaeth sylweddol i unigolyn a chynnig ymdeimlad anhygoel o fudd a boddhad.
Bydd dysgwyr yn ymchwilio i ac yn gwerthuso sut mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn gweithio, gan edrych ar y gwahanol ffyrdd y maent yn hyrwyddo lles cymunedau a'r gwerthoedd sy'n sail i waith eu gweithwyr proffesiynol.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Tyfiant, datblygiad, iechyd a lles bodau dynol ym mhob rhan o’r cylch bywyd.
Dangosyddion i fesur a chefnogi iechyd, lles, gofal a datblygiad.
Darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yng Nghymru.
Gweithgareddau, hyrwyddo ac ymyriadau iechyd cyhoeddus sy'n cefnogi twf, datblygiad, iechyd a lles.
Ymchwilio i ddarpariaeth a materion iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, a dadansoddi a dehongli data a gwybodaeth berthnasol.
Gwerthuso dulliau o ddarparu gofal a chyflwyno barn resymol am y gofal hwnnw.
Cyfleu egwyddorion gofal er mwyn diwallu anghenion grwpiau a chynulleidfaoedd penodol.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad ar-sgrin (40%) a gaiff ei sefyll yn y flwyddyn olaf o astudio, sy’n caniatáu i ddysgwyr ddangos a defnyddio eu gwybodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Asesiad di-arholiad (60%) sy'n caniatáu i ddysgwyr ddangos eu defnydd o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd dysgwyr yn gwerthuso sut mae gweithgareddau iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a hybu iechyd yng Nghymru yn bodloni anghenion grwpiau targed penodedig. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Dyfarniad dwbl)
Rydyn ni hefyd wedi datblygu cynigion ar gyfer cynnwys y pwnc ac asesiadau a allai gael eu defnyddio i greu cymhwyster dyfarniad dwbl ar gyfer TGAU Iechyd a Gofal, a Gofal plant. Rydyn ni’n gofyn am farn ar ba mor dda y byddai cymhwyster dyfarniad dwbl yn diwallu anghenion dysgwyr Cymru a beth fyddai hyn yn ei olygu i ysgolion.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau'r cymhwyster dyfarnoad dwbl arfaethedig hwn, gweler ycynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.