Mae astudio ffilm a’r cyfryngau digidol yn caniatáu dysgwyr i brofi sut y gall ffilm a’r cyfryngau digidol siapio dealltwriaeth o’r byd cyfoes ac i ddatblygu’n ddinasyddion digidol gwybodus.
Bydd TGAU Ffilm a’r Cyfryngau Digidol yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd trwy ddysgu drwy brofiad.
Bydd y cymhwyster yma’n ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu’n bobl sy’n meddwl yn wreiddiol ac yn llawn dychymyg, sydd yn gallu sylwi a myfyrio ar eu profiadau a’u rhannu’n hyderus.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o gynnyrch ffilm a’r cyfryngau digidol.
Defnyddio sgiliau wrth gynhyrchu ffilm neu gynnyrch cyfryngau digidol i wireddu bwriadau creadigol.
Archwilio, creu a datblygu syniadau a thechnegau creadigol i gynhyrchu cynnyrch ffilm neu gyfryngau digidol gyda rheolaeth dechnegol gynyddol.
Myfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill a’i werthuso.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad (30%) yn targedu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol, sylfaenol.
Bydd yr arholiad yma’n cynnwys asesiad digidol, ar-y-sgrîn.
Asesiad di-arholiad (70%) sydd yn gorfod cynnwys portffolio ac aseiniad. Bydd y ddau’n cael eu marcio gan athrawon a’u safoni gan y corff dyfarnu. Caiff yr aseiniad ei osod gan y corff dyfarnu a rhaid iddo gynnwys elfen o asesiad digidol.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.