Mae astudio dawns yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar berfformiad, coreograffi a gwerthfawrogiad beirniadol, gan eu galluogi i brofi dealltwriaeth gorfforol a chysyniadol o’u hunain, eraill a’r byd o’u cwmpas.
Bydd TGAU Dawns yn darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd trwy ddysgu drwy brofiad, gan feithrin dealltwriaeth o ffurfiau, genres, arddulliau a thechnegau gwahanol.
Bydd y cymhwyster hwn yn ysbrydoli dysgwyr i sylwi ar eu profiadau, eu mynegi a’u rhannu’n hyderus.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o brosesau coreograffig a sgiliau perfformio mewn perthynas ag amrywiaeth eang o Ddawns.
Perfformio dawns, adlewyrchu bwriad coreograffig drwy sgiliau corfforol, technegol a mynegiannol.
Archwilio, creu a datblygu syniadau, gan gynnwys symud, gosodiad, dyfeisiau coreograffig a strwythur i wireddu bwriad coreograffig gyda rheolaeth dechnegol a soffistigeiddrwydd.
Myfyrfio ar a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith pobl eraill, gan wneud dyfarniadau dadansoddol, dehongliadol a gwerthusol.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad (30%) yn targedu gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol sylfaenol.
Bydd yr arholiad yma’n cynnwys asesiad digidol, ar-y-sgrîn.
Perfformiad ymarferol (30%). Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod gan y corff dyfarnu a'i farcio gan y corff dyfarnu.
Coreograffi (40%). Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.