TGAU Daearyddiaeth

Mae astudio daearyddiaeth yn ysbrydoli ymdeimlad o ryfeddu mewn dysgwyr ynglŷn â’r byd rydyn ni’n byw ynddo ac yn eu hysgogi i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer pawb. Mae ymateb i faterion sy’n effeithio ar dirweddau’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang yn eu galluogi i ddefnyddio eu gallu a’u sgiliau ar gyfer heriau mawr sy’n wynebu dynoliaeth.

Bydd TGAU Daearyddiaeth yn caniatáu i ddysgwyr brofi cysyniadau daearyddol pwysig a’r rhyngberthynas a’r gyd-ddibyniaeth rhwng tirweddau amrywiol a deinamig corfforol a dynol. Bydd deall cysylltiadau rhwng y byd ehangach a Chymru’n meithrin ymdeimlad o gynefin, y mae’r Cwricwlwm i Gymru’n ei ddiffinio fel y “lleoliad hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi ffurfio ac sy’n parhau i ffurfio’r gymuned sy’n trigo yno.”

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi hyder a sgiliau i ddysgwyr feddwl fel daearyddwyr a dod yn ddinasyddion byd-eang gweithgar, chwilfrydig a gwybodus sydd ag uchelgais i ddysgu ac i wneud gwahaniaeth.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ymchwil, ymholi ac astudiaethau daearyddol.
  • Y gallu i ddewis, addasu a defnyddio sgiliau a thechnegau i ymchwilio a chyfathrebu canfyddiadau.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o:
    • brosesau, tirweddau, amgylcheddau a gweithredoedd dynol
    • llefydd, pobl, a digwyddiadau
    • cymdeithasau dynol, gweithredoedd a chredoau.
  • Sgiliau meddwl beirniadol a myfyrio, gwerthuso tystiolaeth a chanfyddiadau, datrys problemau, gwneud penderfyniadau a barn wedi’i brofi.

Bydd y fanyleb yn darparu cyfleoedd naturiol a dilys i archwilio Hawliau Dynol ac amrywiaeth, gan gynnwys hanes Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, hunaniaeth, diwylliant, a chyfraniadau, a hynny drwy lens Daearyddiaeth.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Arholiad (50%):

  • Bydd y rhain yn asesu gallu dysgwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol drwy eu cyd-destun dewisol.
  • Gallai'r arholiadau hyn gynnwys asesiad digidol, ar-sgrin.

Asesiad di-arholiad (50%):

  • Bydd dau asesiad di-arholiad:
    • Ymholiad daearyddol (30%)
    • Aseiniad (20%).
  • Bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy dasgau fydd yn cael eu gosod gan y corff dyfarnu.
  • Gallai’r rhain gael eu marcio gan athrawon neu'r corff dyfarnu. Bydd tasgau sy'n cael eu marcio gan athrawon yn cael eu safoni gan y corff dyfarnu.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:01 PM