Mae cyfrifiaduron a chyfrifiadureg yn ganolog i’n bywydau o ddydd i ddydd – mae ym mhob man o’r consolau gemau yn ein cartrefi i’r peiriannau achub bywydau yn ein hysbytai. Mae astudio cyfrifiadureg yn rhoi set unigryw o sgiliau i ddysgwyr i ddatrys problemau bob dydd yn greadigol.
Bydd dysgwyr sy’n astudio’r cwrs TGAU Cyfrifiadureg newydd yma’n datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut y mae cyfrifiadureg yn gosod sail i’n byd digidol ac yn cynnal y dyfeisiadau rydyn ni’n eu defnyddio o ddydd i ddydd.
Bydd y cymhwyster yma’n helpu dysgwyr i gymhwyso meddwl yn gyfrifiadurol a datblygu’r sgiliau rhaglennu ymarferol a’r hyder sydd ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â phroblemau yn y byd go iawn trwy greu, gwella a phrofi codau ar gyfer meddalwedd a systemau.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Pensaernïaeth cyfrifiaduron a systemau.
Strwythur systemau a sut maen nhw'n cyfathrebu.
Cylch oes datblygu meddalwedd.
Cysyniadau rhaglennu.
Ymchwilio i broblemau cyfrifiadureg.
Dylunio atebion a defnyddio modelu data.
Defnyddio iaith raglennu benodol i ysgrifennu, profi a mireinio codau.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiad ar-y-sgrîn (50%) a gaiff ei sefyll yn y flwyddyn olaf o astudio: gan ganiatáu i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gyfrifiadureg.
Asesiad codio (50%) a gaiff ei sefyll yn ystod y flwyddyn olaf o astudio: gan ganiatáu i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth mewn asesiad ymarferol.
Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod a'i farcio gan y corff dyfarnu.
Bydd y cyd-destun ar gyfer yr asesiad codio yn cael ei ryddhau i ddysgwyr yn ystod Blwyddyn 10, gan gynnig ffocws iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac annog cydweithio ag eraill drwy gydol eu dysgu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.