Mae astudio celf a dylunio’n caniatáu dysgwyr i brofi swyddogaethau corfforol, cymdeithasol a phersonol celf trwy amrywiaeth o gyd-destunau diwylliannol a hanesyddol. Mae’r cymhwyster yn annog dysgwyr i arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau ac offer ac yn cynnwys amrywiaeth eang o opsiynau gan gynnwys dylunio tri dimensiwn, ffotograffiaeth a thecstilau.
Bydd TGAU Celf a Dylunio’n darparu cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, sgiliau cyfathrebu a chwilfrydedd trwy ddysgu drwy brofiad. Mae hefyd yn galluogi dysgwyr i brofi a gwerthfawrogi gwaith celf, dylunio a chrefft greadigol pobl eraill.
Bydd y cymhwyster hwn yn ysbrydoli dysgwyr i ddatblygu’n artistiaid gwreiddiol a llawn dychymyg sydd yn gallu sylwi a myfyrio ar brofiadau a’u rhannu mewn modd creadigol a hyderus.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o waith a gynhyrchir gan artistiaid, crefftwyr a dylunwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth eang o brosesau a chanlyniadau celf, crefft a dylunio.
Defnyddio sgiliau wrth gynhyrchu gwaith celf, crefft a dylunio i ddatblygu syniadau arloesol a gwireddu bwriadau creadigol â rheolaeth.
Myfyrio ar a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.
Archwilio, creu a datblygu syniadau a thechnegau creadigol i gynhyrchu a chyflwyno gwaith.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Portffolio gwerth 60% o'r cymhwyster. Bydd hwn yn cael ei osod gan athrawon, ei farcio gan athrawon a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
Aseiniad gwerth 40% o'r cymhwyster, wedi'i osod gan y corff dyfarnu, wedi'i farcio gan yr athro a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.
AR GAU: Ni allwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn bellach.