TGAU Bwyd a Maeth

Mae astudio bwyd a maeth yn caniatáu i ddysgwyr gael profiad o wahanol agweddau o'r daith mae ein bwyd yn ei gymryd 'o’r fferm i’r fforc'. Mae’n rhoi dealltwriaeth iddyn nhw o sut mae bwyd a diod yn siapio ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles trwy ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng maeth, dewisiadau bwyd a ffyrdd o fyw.

Bydd TGAU Bwyd a Maeth yn helpu dysgwyr i ddatblygu set eang o sgiliau coginio ymarferol, ac yn rhoi profiadau i feithrin yr hyder a'r sgiliau bywyd i wneud dewisiadau deietegol iach a gwybodus drostyn nhw eu hunain a thros eraill.

Bydd hefyd yn eu galluogi nhw i gael profiad o greu prydau bwyd sy'n benodol i Gymru, ochr yn ochr â bwyd byd-eang a bwyd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer carfannau penodol o gymdeithas.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Grwpiau nwyddau bwyd.
  • Tarddiad bwyd a diod.
  • Egwyddorion maeth, deiet ac iechyd da.
  • Gwyddoniaeth bwyd.
  • Dewis ac addasu bwydlenni ac arbrofi gyda chynhwysion a grwpiau bwyd.
  • Coginio a pharatoi bwyd o wahanol ddulliau coginio a diwylliannau, y rhai hynny sydd yn cael eu creu ar gyfer carfannau penodol, a’r rheini sy’n benodol i Gymru.
  • Gwerthuso darpariaeth bwyd a maeth a’i effaith ar iechyd a lles.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  1. Arholiad ar sgrin (40%) yn y flwyddyn olaf o astudio, sy’n caniatáu dysgwyr i arddangos a defnyddio eu gwybodaeth o fwyd a maeth.
  2. Paratoi bwyd (40%) sef creu bwydlen o fwydydd, gan ganiatáu i ddysgwyr arddangos sut maen nhw’n defnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Bydd hwn yn cael ei osod gan y corff dyfarnu, ei farcio gan athrawon a’i gymedroli gan y corff dyfarnu.
  3. Ymchwiliad bwyd (20%) mewn maes perthnasol o ran bwyd a maeth, a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddewis o amrywiaeth o friffiau. Caiff hyn ei osod gan y corff dyfarnu, ei farcio gan athrawon a’i gymedroli gan y corff dyfarnu.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:20 PM