TGAU Astudiaethau Cymdeithasol

Mae astudiaethau cymdeithasol yn archwilio sut mae symudiadau a digwyddiadau cymdeithasol wedi ffurfio ein cymdeithas, gan ddeall sut rydyn ni’n gweithredu a’r heriau mawr rydyn ni’n eu hwynebu.

Bydd TGAU Astudiaethau Cymdeithasol yn ysbrydoli dysgwyr i fod ag awydd i newid y byd. Trwy ymholi cymdeithasol a gweithredu cymdeithasol, bydd dysgwyr yn archwilio materion cymdeithasol cyfoes, hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau, cydraddoldeb ac anghydraddoldeb.

Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i gael gwell dealltwriaeth o fyd cymhleth a heriol, sy’n parhau i newid yn gyflym, a’u grymuso i ffurfio dyfodol teg a chynaliadwy fel dinasyddion gweithredol yn y dyfodol.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o:

  • Oblygiadau moesegol a chymdeithasol technoleg.
  • Y ffordd y mae gweithredu cymdeithasol yn dylanwadu ar faterion sy'n wynebu unigolion a chymunedau, o safbwynt lleol, cenedlaethol, a’r byd yn ehangach.
  • Heriau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd a'r effaith ar bobl, ar leoedd, ac ar y gymuned.
  • Yr heriau cymdeithasol allweddol sy’n gysylltiedig â’r byd naturiol a'u canlyniadau posibl.
  • Sut mae symudiadau cymdeithasol a digwyddiadau wedi ffurfio cymdeithas, a sut y gall gwahanol bobl mewn gwahanol leoedd ddehongli hyn yn wahanol.
  • Dylanwad galluedd cymdeithasol ar brosesau democrataidd a threfniadaeth gymunedol.

Mae'n rhaid i ddysgwyr hefyd ddangos eu bod nhw'n gallu:

  • Cymryd rhan mewn ymholiadau a defnyddio sgiliau ymholi.
  • Rhoi adolygiadau beirniadol o’r ffyrdd y mae digwyddiadau a phrofiadau'n cael eu gweld, eu dehongli, a'u cynrychioli drwy archwilio amrywiaeth o ddehongliadau, cynrychiolaethau a thystiolaeth.
  • Gwneud cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd.
  • Gwerthuso a dadansoddi canfyddiadau, credoau, a chasgliadau yn feirniadol, a chasglu a dadansoddi data gan ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol.

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd naturiol a dilys i archwilio Hawliau Dynol ac amrywiaeth, gan gynnwys hanes, hunaniaeth, diwylliant, a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a hynny drwy lens unigryw Astudiaethau Cymdeithasol. Bydd yn cael ei strwythuro i adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau a grwpiau mewn cymdeithas a chaniatáu i ddysgwyr ddatblygu ymdeimlad o gynefin.

Bydd cynnwys ac asesu'r cymwysterau wedi'u cynllunio i adlewyrchu ac ymateb i ddigwyddiadau cyfredol a materion cymdeithasol cyfoes. Bydd wedi’i strwythuro o amgylch y themâu canlynol:

  • Gwrthdaro cymdeithasol a heddwch
  • Democratiaeth
  • Tegwch cymdeithasol ac economaidd
  • Gwarchod yr amgylchedd a chynaliadwyedd
  • Technoleg a'i ddylanwad ar gymdeithas.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Arholiadau (50%) Bydd hanner y cymhwyster yn cael ei asesu trwy arholiadau fydd yn cael eu sefyll ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd.

Project ymchwil ymholi cymdeithasol (30%) Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.

Asesiad di-arholiad (20%) Gallai’r asesiad di-arholiad yma gynnwys ymarfer gwneud penderfyniad neu werthuso beirniadol ar ffurf astudiaeth achos. Bydd tasgau’n cael eu gosod gan y corff dyfarnu a byddan nhw naill ai yn cael eu marcio gan yr ysgol a’u cymedroli gan y corff dyfarnu, neu eu marcio gan y corff dyfarnu.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:08 PM