TGAU Astudiaethau Crefyddol

Mae astudio crefydd, gwerthoedd a moeseg yn grymuso dysgwyr i allu canfod, deall a mynegi’r hyn sy’n bwysig mewn bywyd a chwestiynu pwy ydyn ni a pham rydyn ni yma.

Bydd TGAU Astudiaethau Crefyddol yn annog dysgwyr i wneud synnwyr o’r profiad dynol, y byd naturiol, a’u perthynas ag e, a dehongli hynny, gan ddeffro ymdeimlad o ryfeddod a thanio’r dychymyg.

Bydd y cymhwyster yma’n ysbrydoli dysgwyr i wynebu’r dyfodol gyda chwilfrydedd a thrugaredd, drwy ymgysylltu â gwahanol grefyddau, credoau anghrefyddol, materion moesol cyfoes, ac argyhoeddiadau athronyddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o:

  • Fydolwg cyfoes crefyddol ac anghrefyddol, athronyddol a moesegol er mwyn:
    1. Cymryd rhan mewn ymholiadau a defnyddio sgiliau ymholi
    2. Defnyddio sgiliau cwestiynu a dadansoddi i gefnogi archwilio a myfyrio
    3. Gwneud cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd ac anghyfarwydd.
    4. Meddwl yn feirniadol am gredoau crefyddol ac anghrefyddol, dysgeidiaethau, arferion, gwerthoedd, ac argyhoeddiadau athronyddol
    5. Defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth wrth lunio barn sy’n cael ei chefnogi.
  • Credoau, gwerthoedd, dysgeidiaethau, arferion ac argyhoeddiadau athronyddol Cristnogol, gan wneud defnydd priodol o wahanol ddysgeidiaethau, credoau ac arferion o fewn Cristnogaeth a chymhwyso'r credoau hyn i'r gwerthoedd a'r argyhoeddiadau athronyddol sydd gan Gristnogion[1].
  • Credoau, dysgeidiaeth ac arferion crefyddol ac anghrefyddol ac argyhoeddiadau athronyddol.
  • Sut mae crefydd a chredo, pobl, a lleoedd yn dylanwadu ar newid a sut mae hyn wedi effeithio ar ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Bydolwg crefyddol ac anghrefyddol ar bwrpas a rôl dynoliaeth a chyfrifoldeb amgylcheddol.
  • Amrywiaeth o fewn ac ar draws safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.

Gall dysgwyr ddewis archwilio crefyddau eraill a systemau cred anghrefyddol, dysgeidiaeth, arferion, gwerthoedd, ac argyhoeddiadau athronyddol. Gellir dewis y rhain o blith:

  • Islam
  • Bwdhaeth
  • Iddewiaeth
  • Sikhiaeth
  • Hindŵaeth
  • Dyneiddiaeth

Bydd y cymhwyster yn cefnogi'r canllawiau statudol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel sy’n cael ei nodi yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, nid y cymhwyster hwn yw'r unig ffordd y dylai ysgolion roi'r canllawiau hyn ar waith.

Bydd cyfleoedd naturiol a dilys i archwilio Hawliau Dynol ac amrywiaeth, gan gynnwys hanes Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, hunaniaeth, diwylliant, a chyfraniadau, a hynny drwy lens Astudiaethau Crefyddol.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Arholiadau (70%):

  • Bydd dysgwyr yn sefyll dau bapur arholiad (y ddau’n gyfartal o ran pwysoliad):
    • Bydd un yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o grefydd, credoau, dysgeidiaethau ac arferion.
    • Bydd y llall yn asesu gallu dysgwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth mewn cyd-destunau newydd ac anghyfarwydd, ac i ddefnyddio meddwl beirniadol, a sgiliau dadansoddi a gwerthuso i ddod i gasgliadau rhesymegol mewn perthynas â phynciau a chwestiynau moesegol.
  • Bydd pob arholiad yn cael ei sefyll ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd.

Project ymchwil ymholi (30%):

  • Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

[1] Bydd addysgu a dysgu am Gristnogaeth yn orfodol oherwydd ystyriaethau sy'n adlewyrchu bod dysgwyr mewn ysgolion ffydd ac ysgolion nad ydyn nhw’n ysgolion ffydd yn astudio TGAU Astudiaethau Crefyddol. Nodwch os gwelwch yn dda Adran 375A o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y cyfeirir ato hefyd yng nghanllawiau MDPh y Dyniaethau.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:08 PM