Neidio i'r cynnwys

TESTArolwg Dysgwyr: Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae'r arolwg hwn ar gael i ddysgwyr gael rhannu eu barn gyda ni ar newidiadau rydyn ni’n bwriadu eu gwneud i ddyluniad cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn:


  • cymhwyso rhif  
  • cyfathrebu
  • llythrennedd digidol


Rhanna dy farn erbyn 5 Chwefror 2026. 

0% Ateb

Rydyn ni eisiau clywed dy farn ar newidiadau i gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC).


Rydyn ni’n gofyn i ddysgwyr rannu eu barn ar newidiadau rydyn ni’n bwriadu eu gwneud i ddyluniad cymwysterau SHC mewn: 
 

  • cymhwyso rhif  
  • cyfathrebu  
  • llythrennedd digidol 


Mae ein hymgynghoriad yn ymdrin â:  

  • phwrpas a nod y cymwysterau hyn  
  • y wybodaeth a'r sgiliau mae’r cymysterau yn eu cynnwys  
  • sut bydd y cymwysterau’n cael eu hasesu  
  • beth fydd y cymwysterau’n cael eu galw 


Y newidiadau allweddol rydyn ni’n eu cynnig:  

  • Dileu cymwysterau SHC ar Lefel 3 ym mhob pwnc. 
  • Dileu cymwysterau SHC ym Mynediad 1 a Mynediad 2 mewn llythrennedd digidol. 


Ar gyfer pob pwnc, byddwn ni’n gofyn sut gallai dileu'r cymwysterau hyn effeithio ar ddysgwyr a phobl eraill. 

Wrth greu'r cynigion hyn, fe wnaethon ni edrych ar:  

  • sut mae cymwysterau SHC yn cael eu defnyddio nawr 
  • sut maen nhw'n cymharu â chymwysterau tebyg yn Lloegr (Sgiliau Gweithredol) a'r Alban (Sgiliau Craidd) 


Rydyn ni eisiau clywed beth rwyt ti’n ei feddwl. Rhanna dy farn erbyn 5 Chwefror 2026. 

1.  

Wyt ti'n ddysgwr? 

* Ofynnol