Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, rydyn ni wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu mapiau cymwysterau galwedigaethol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
Rydyn ni am gynhyrchu adnoddau defnyddiol sy'n dangos yr holl wahanol opsiynau a llwybrau sydd ar gael ym mhob sector, i gefnogi eich ymchwil i gymwysterau galwedigaethol. Nod adnoddau teithiau dysgwyr yw:
cefnogi dysgwyr a'u rhieni wrth iddyn nhw ymchwilio i'w hopsiynau mewn maes galwedigaethol
bod yn hygyrch ac yn afaelgar
rhoi golwg syml o'r holl lwybrau ac opsiynau sydd ar gael
Fel prosiect peilot, rydyn ni wedi dechrau trwy gynhyrchu teithiau dysgu ar gyfer y sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Dim ond man cychwyn yw hwn, ac rydyn ni am glywed eich sylwadau a'ch adborth fel y gallwn sicrhau ein bod yn cynhyrchu dogfennau taith dysgu sy'n ddefnyddiol i chi.
Rydyn ni eisiau clywed eich sylwadau a'ch adborth. Cymerwch olwg ar y teithiau dysgu rydyn ni wedi'u cynhyrchu ar gyfer Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a rhowch wybod i ni beth yw eich barn fel y gallwn ddeall a fydden nhw’n ddefnyddiol i chi.
Cliciwch ar y ddolen 'Rhoi adborth' isod i Ddweud Eich Dweud. Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cynhyrchu adnoddau sy'n ddefnyddiol i chi wrth i chi ystyried eich cyfleoedd dilyniant a phenderfynu pa lwybr i'w gymryd.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 13 Mehefin 2025.
Cyn ymateb i'r arolwg, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae'n broses syml sy’n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei gadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau neu arolygon, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.