Siapio dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru
AR GAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am farn ar ein cynigion sy'n ymwneud â'r gofynion dylunio lefel uchel ar gyfer cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru diwygiedig mewn:
Cymhwyso Rhif
Cyfathrebu
Llythrennedd Digidol
Yn benodol, rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n ymwneud â’r canlynol:
pwrpas a nodau'r cymwysterau
cynnwys (gwybodaeth a sgiliau)
asesu
teitlau’r cymhwyster
Rydym yn bwriadu dileu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 3 ym mhob pwnc ac ar lefel mynediad 1 a mynediad 2 mewn Llythrennedd Digidol.
Ar gyfer pob pwnc rydym yn gofyn cwestiwn am effeithiau dileu'r cymwysterau hyn.
Wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer y cymwysterau hyn, rydym wedi ystyried cyd-destun ehangach defnyddio’r cymwysterau hyn. Er enghraifft, rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhaus y cymwysterau hyn ar fframweithiau prentisiaethau ac fel dewisiadau yn lle ailsefyll TGAU ar gyfer dysgwyr rhwng 16 a 18 oed nad ydynt wedi cyflawni canlyniad lefel 2 mewn TGAU Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg erbyn diwedd Blwyddyn 11.
Rydym hefyd wedi ystyried sut mae'r cymwysterau hyn yn cymharu â chymwysterau cyfatebol fel Sgiliau Gweithredol yn Lloegr a Sgiliau Craidd yn yr Alban.
Mae ein dull o ddatblygu'r cynigion hyn hefyd yn cyd-fynd â’r canlynol:
ein prif nodau fel y'u nodir yn Neddf Cymwysterau Cymru 2015
ein hamcanion mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
ein dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
ein gofynion o dan safonau'r Gymraeg
Er mwyn ystyried effaith bosibl ein cynigion ar bobl sy'n byw yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, rydym wedi cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid drwy ein gweithgareddau ymgysylltu ac wedi ceisio eu cael i gymryd rhan. Ar gyfer pob cynnig, rydym yn darparu rhesymeg sy’n amlinellu’r ffactorau a’r meddylfryd a gyfrannodd at eu datblygiad.
Rydym eisiau clywed eich barn ar y cynigion.
Darllenwch ein dogfen ymgynghori a'n hasesiad effaith integredig cyn cwblhau'r ymgynghoriad isod erbyn 5 Chwefror 2026.Cyn ymateb i'r arolwg, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae'n broses syml sy’n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei gadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau neu arolygon, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.
