Sgiliau Hanfodol Cymru

Yn dilyn adolygiad manwl, rydym yn y broses o ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Gan adeiladu ar ganfyddiadau ein hadolygiad, rydym yn cynnal arolwg i ganfod barn rhanddeiliaid ar yr wybodaeth a'r sgiliau hanfodol y dylid eu cynnwys yn y cymwysterau hyn.

Rydym eisiau clywed barn y rhai sy'n darparu cymwysterau presennol Sgiliau Hanfodol Cymru, yn ogystal â chyflogwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu dealltwriaeth eang o'r cynnwys allweddol sydd ei angen i baratoi dysgwyr yn effeithiol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith modern.

Bydd canlyniadau'r arolwg yn llywio trafodaethau panel rhanddeiliaid yn ystod haf 2025, gyda gofynion dylunio yn cael eu cyhoeddi ar gyfer adborth yn hydref 2025, gan gynnwys pwrpas, cynnwys a threfniadau asesu.

Rhagor o wybodaeth

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru wedi'u dylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion yn y gymuned a lleoliadau amgen. Maent yn adlewyrchu'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer dysgu, gwaith a bywyd, gan gynnig dewis arall i TGAU mewn mathemateg a Saesneg ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, ac fe'u defnyddir ar fframweithiau prentisiaethau.

Er ein bod yn bwriadu i'r cymwysterau hyn fod ar gael ar sawl lefel, mae'r arolwg hwn yn canolbwyntio ar gynnwys ar lefelau 1 a 2. Ar y ddwy lefel hon mae'n bwysig bod y cymwysterau’n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu a dangos dealltwriaeth o'r sgiliau sy'n eu cefnogi i symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau.

At bwrpas yr arolwg hwn, mae'r cynnwys wedi'i grynhoi ar lefel uchel. Mae rhywfaint o gynnwys wedi'i ddiweddaru yn seiliedig ar adborth gan randdeiliaid a chanfyddiadau o adroddiad allanol ar ein hadolygiad technegol o Sgiliau Hanfodol Cymru.

Cymryd rhan

I helpu i lywio’r gwaith o ddylunio’r cymwysterau hyn, ewch ati i ddweud eich dweud trwy gwblhau'r arolwg isod, a fydd ar agor tan 20 Mehefin.

Cyn ymateb i'r arolwg, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae'n broses syml sy’n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei gadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau neu arolygon, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.

Diweddaru: 23 Mai 2025, 08:07 AC