Mae mathemateg ychwanegol yn herio dysgwyr trwy gwrs astudio sy’n mynd â nhw’n bellach na chwrs TGAU mewn mathemateg.
Bydd cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ysgolion o ran maint a chyfuniad y fathemateg maen nhw’n ei chynnig i ddysgwyr. Bydd yn help i ddatblygu gallu mathemategol, dealltwriaeth gysyniadol a hyder dysgwr ac yn cynnig cyfle i astudio agweddau o fathemateg nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y cwrs TGAU.
Bydd y cymhwyster newydd hwn yn apelio at amrywiaeth eang o ddysgwyr ac yn cefnogi dilyniant i ddysgu ôl-16 oed mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol.
Beth fydd y dysgwyr yn ei astudio?
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o unedau o fewn y cymhwyster yma sy'n ymdrin ag agweddau ar fathemateg bur a chymhwysol. Gall dysgwyr astudio unrhyw nifer o'r unedau hyn.
Gallai'r cymhwyster gynnwys unedau ar y pynciau canlynol:
Algebra
Calcwlws
Cymhwyso Mathemateg (geometreg gyfesurynnol a thrigonometreg)
Ystadegau
Mecaneg
Mathemateg Arwahanol a Mathemateg Penderfyniadau.
Rydyn ni eisiau eich barn chi ar a yw'r amrywiaeth arfaethedig yma o unedau yn briodol.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd y cymhwyster yn asesu gallu dysgwyr i:
Alw i gof a defnyddio eu gwybodaeth o’r cynnwys penodedig
Dewis a defnyddio dulliau mathemategol
Dehongli a dadansoddi problemau a defnyddio rhesymu mathemategol i’w datrys.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd pob uned unigol yn cael ei hasesu gan arholiad.
Bydd pob uned â chynnwys y bydd modd ei ddysgu o fewn tua 20-30 o oriau dysgu dan arweiniad.
Bydd y cymhwyster yn cynnig ardystio unedau ar gyfer dysgwyr sy'n llwyddo i gwblhau uned. Bydd unedau'n cael eu graddio fel pasio, teilyngdod neu ragoriaeth.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw dair uned yn llwyddiannus ennill tystysgrif Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.