Hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg

Amodau Cydnabod Arfaethedig

Rydyn ni’n cynnig rhoi Amodau ar waith i’w gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Nod yr Amodau hyn yw gwella eglurder a thryloywder gwybodaeth i ddefnyddwyr cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr, ysgolion a cholegau, am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Mae ein Hamodau arfaethedig mewn dwy ran:

  • Rydyn ni’n cynnig ei gwneud yn ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi a yw'n darparu neu'n bwriadu darparu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio. Rydyn ni’n nodi bod hyn eisoes yn ofyniad ar gyfer cyrff dyfarnu sydd am gyflwyno cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch i'w Dynodi gan Cymwysterau Cymru.

Bydd angen i'r datganiad polisi hwn esbonio ar ba sail y mae wedi penderfynu a ddylai cymhwyster gael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio. Corff dyfarnu fydd yn ystyried sut i fodloni'r gofyniad hwn, a pha lefel o fanylion sy'n angenrheidiol ac yn briodol yn hynny o beth.

Bydd yn ofynnol i gyrff dyfarnu gydymffurfio â'u datganiad polisi yn barhaus.

  • Pan fydd corff dyfarnu yn darparu, neu'n bwriadu darparu, cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn ofynnol iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Lle bo'r Amodau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi, bydd y rheolau dehongli a amlinellir yn Amod J1.7 o'n dogfen Amodau Cydnabod Safonol yn berthnasol.

Amod J1.7 Os bydd yn ofynnol i gorff dyfarnu gyhoeddi dogfen neu wybodaeth, rhaid i'r ddogfen neu'r wybodaeth honno gael ei chyhoeddi mewn ffordd sydd:

  1. yn glir i'w chynulleidfa fwriadedig;

  1. yn gywir; ac

  1. yn eithaf hygyrch (gan gynnwys drwy ei chyhoeddi ar wefan y corff dyfarnu).

Gofynion

Mae ein Hamod D9.6(a) arfaethedig yn caniatáu inni bennu gofynion mewn perthynas â chorff dyfarnu yn hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Wrth osod y gofynion hyn, ein nod yw rhoi eglurder i gyrff dyfarnu ar y lleiafswm yr ydyn ni’n ei ystyried yn angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Amodau arfaethedig.

Ni fwriedir i’r gofynion fod yn rhagnodol, ond yn hytrach maen nhw wedi’u drafftio mewn ffordd sy’n caniatáu i gyrff dyfarnu benderfynu ar y dull mwyaf effeithiol o hyrwyddo argaeledd eu cymwysterau cyfrwng Cymraeg a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i drefniadau sydd ar waith gan gorff dyfarnu i:

  • gyhoeddi datganiad polisi yn nodi a yw’n cynnig, neu’n bwriadu cynnig, cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg, a

  • hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod y trefniadau sydd ganddo ar waith mewn perthynas â'r uchod yn bodloni'r gofynion sylfaenol at ddibenion Amod D9.6(a).

I ddarllen ein rheolau arfaethedig yn llawn, edrychwch ar ein Hamodau a Gofynion.

Canllawiau Arfaethedig

Mae ein Hamod D9.6(a) arfaethedig yn caniatáu inni bennu canllawiau mewn perthynas â chorff dyfarnu yn hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a hwyluso mynediad iddyn nhw.

Rydyn ni’n cydnabod bod amrywiaeth o ddulliau a threfniadau y gall corff dyfarnu eu defnyddio i hyrwyddo eu cymwysterau. Bydd pa ddulliau hyrwyddo y mae corff dyfarnu yn dewis eu defnyddio yn dibynnu ar sawl ffactor. Gall y rhain gynnwys:

  • Cyfnod yng nghylch oes cymhwyster: e.e. mae hysbysebu yn bwysig yn ystod y cyfnod lansio

  • Natur y cymhwyster: faint o wybodaeth sydd ei hangen ar gwsmeriaid cyn iddyn nhw brynu

  • Cystadleuaeth: beth mae cystadleuwyr yn ei wneud?

  • Cyllideb farchnata: faint all y sefydliad ei fforddio?

  • Strategaeth farchnata: elfennau eraill o'r cymysgedd (pris, cynnyrch, lle ac ati)

  • Marchnad darged: ffyrdd priodol o gyrraedd y farchnad darged.

Rydyn ni’n credu mai cyrff dyfarnu sydd yn y sefyllfa orau i farnu pa weithgareddau hyrwyddo fydd fwyaf effeithiol mewn perthynas â’u cymwysterau, a’r ysgolion a’r colegau maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Gyda hynny mewn golwg, nid ydyn ni’n bwriadu rhagnodi pa weithgareddau y dylai corff dyfarnu ymgymryd â nhw. Mater i gorff dyfarnu yw ystyried pa ffurf y dylai unrhyw drefniadau a gweithgareddau sy'n mynd y tu hwnt i'n gofynion sylfaenol fod, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau eu hunain.

Mae ein canllawiau arfaethedig yn nodi sut y dylai corff dyfarnu gydymffurfio â'n gofynion, y ffactorau y gallai ddymuno eu hystyried wrth benderfynu ar ei drefniadau, a sut y gallai fynd y tu hwnt i'r rheini pe bai'n dymuno gwneud hynny. Ni fwriedir i'r ffactorau hyn fod yn hollgynhwysfawr, a gall y pwyslais y mae corff dyfarnu yn ei roi arnyn nhw amrywio.

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi rhai o'r gweithgareddau y gallai corff dyfarnu ddymuno eu hystyried wrth hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Rydyn ni’n awyddus i ddeall gan gyrff dyfarnu a yw’r gweithgareddau rydyn ni wedi’u hamlinellu yn ein canllawiau arfaethedig yn cynrychioli’r rhai y byddent yn disgwyl eu hystyried.

Yn yr un modd, rydyn ni hefyd yn awyddus i glywed barn defnyddwyr cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr, ysgolion, a cholegau ar y camau yr hoffen nhw weld cyrff dyfarnu yn eu cymryd yn unol â'r Amodau a'r Gofynion arfaethedig.

Mae’r Canllawiau arfaethedig wedi’u datblygu mewn ymgynghoriad â Chomisiynydd y Gymraeg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydyn ni’n diolch iddyn nhw am eu mewnbwn gwerthfawr.

Cynnig ar gyfer Gweithredu

Os byddwn yn symud ymlaen i weithredu’r Amodau, Gofynion a Chanllawiau arfaethedig yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn nodi’r dyddiad y byddan nhw’n dod i rym yn ein Fframwaith Rheoleiddio, a’r dyddiad erbyn pryd y bydden ni’n disgwyl i gyrff dyfarnu gydymffurfio ag unrhyw ofynion newydd.

Rydyn ni’n cynnig caniatáu i gyrff dyfarnu gyflwyno'r gofynion hyn fesul cam, gan gydnabod y bydd yn bosibl gweithredu a bodloni rhai agweddau yn gyflymach nag eraill. Er enghraifft, dylai ein gofyniad i gyhoeddi datganiad polisi ofyn am lai o amser i’w fodloni na'r rhai sy'n ymwneud â hyrwyddo a hwyluso cymwysterau cyfrwng Cymraeg.

Rydyn ni’n cynnig darparu cyfnod rhagarweiniol o 12 mis i gyrff dyfarnu er mwyn iddyn nhw gydymffurfio'n llawn â'n gofynion. Lle mae modd bodloni rhai neu bob un o'r gofynion hyn yn gynt na hyn, bydden ni’n annog cyrff dyfarnu i wneud hynny.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.

Diweddaru: 18 Chwef 2023, 09:32 AC