Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cymwysterau Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru. Helpwch ni i ddeall yn well y cymwysterau a ddefnyddir yn y sector Dysgu Oedolion yn y Gymuned, yn enwedig mewn perthynas â llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol.

Rydym yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan diwtoriaid a sefydliadau sy'n Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Mae eich profiadau a'ch safbwyntiau yn bwysig i'n helpu i adeiladu darlun cliriach o'r sector. Er bod ein cylch gwaith yn canolbwyntio ar gymwysterau rheoleiddiedig megis Sgiliau Hanfodol Cymru, rydym am ddeall yn well y cyd-destun ehangach lle mae dysgu oedolion yn y gymuned yn digwydd.

Cwblhewch yr arolwg isod i rannu eich barn.

Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i helpu Cymwysterau Cymru i ddeall y cymwysterau a ddefnyddir ar hyn o bryd ym maes Dysgu Oedolion yn y Gymuned a nodi unrhyw gryfderau, bylchau neu gyfleoedd ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Bydd ymatebion yn cael eu hystyried gyda'i gilydd ac ni fyddant yn cael eu defnyddio i adnabod tiwtoriaid na sefydliadau unigol mewn unrhyw ganfyddiadau cyhoeddedig.

Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2026

  • Cyn ymateb, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae hon yn broses syml sy’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform hwn, ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch manylion presennol.  

    I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn defnyddio ac yn rheoli eich data, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.

    Arolwg
Diweddaru: 06 Tach 2026, 02:46 PM