Gadewch i ni wybod am alw am gymhwyster galwedigaethol ôl-16 yn Gymraeg

Mae gwaith Cymwysterau Cymru i gynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael yn Gymraeg yn allweddol i wireddu uchelgais ein strategaeth ‘Dewis i Bawb’ a strategaeth ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’ Llywodraeth Cymru. Trwy’r gwaith hwn, mae gennym ni’r cyfle i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ehangu dewis dysgwyr ym maes cymwysterau galwedigaethol ôl-16.

Wrth i ni ganolbwyntio ein gwaith ar dargedu cymwysterau o’r flaenoriaeth bennaf, hoffem ni glywed gan ddarparwyr dysgu (ysgolion chweched dosbarth, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu’n seiliedig ar waith) ar draws Cymru ynglŷn ag angen/galw sydd gennych am gymwysterau i’w darparu yn Gymraeg. Bydd hyn yn ein helpu wrth i ni weithio gyda chyrff dyfarnu i gau bylchau ac i gynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael yn Gymraeg.

Ffurflen ymholi heb ddyddiad cau yw hon ac mae croeso i chi gyflwyno mwy nag un ymateb.

  • Cyn cwblhau’r ffurflen hon, rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â’ch corff dyfarnu presennol yn y lle cyntaf i wirio’r hyn y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod y cymhwyster ar gael naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl yn Gymraeg.

    Dylech chi hefyd wirio bas data QiW am unrhyw gymwysterau priodol eraill sydd eisoes ar gael yn Gymraeg ac ystyried a yw un o’r cymwysterau hyn yn diwallu anghenion eich dysgwyr.

    Dylai gymryd tua 10 munud i gwblhau’r ffurflen hon. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r manylion priodol am y cymhwyster wrth law cyn cwblhau’r ffurflen hon.

    Gan gwblhau’r ffurflen hon, rydych chi’n cadarnhau eich bod yn fodlon i Gymwysterau Cymru a/neu unrhyw gorff dyfarnu perthnasol gysylltu â chi i drafod eich ymholiad.

    Cwblhau’r ffurflen
Diweddaru: 09 Chwef 2024, 08:50 AC