Galw am dystysgrifau unedau

Rydym yn gofyn i ddarparwyr hyfforddiant gwblhau arolwg 2 funud, i ddweud wrthym ba unedau y mae cyflogwyr eu heisiau fel cyrsiau annibynnol.

Yn 2023, canfu’r Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ("yr Adolygiad") fod rhai cyflogwyr eisiau i weithwyr gwblhau uned o gymhwyster presennol, yn hytrach na'r cwrs cyfan.

Awgrymodd yr Adolygiad : Ddylai darparwyr dysgu hyrwyddo unedau unigol neu luosog o gymwysterau galwedigaethol i gyflogwyr lle bo hynny’n briodol, a dylai Cymwysterau Cymru annog cyrff dyfarnu i sicrhau bod tystysgrifau unedau ar gael i ateb y galw.

Rydym yn awyddus i ddeall lle mae'r galw.

I gwblhau'r arolwg, cliciwch yma. Bydd yr arolwg ar agor tan 2 Mai 2025.

Cyn ymateb i'r arolwg, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi. Mae'n broses syml sy’n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei gadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru. Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau neu arolygon, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.

Diweddaru: 17 Mar 2025, 03:28 PM