Canllaw Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg

Mae Cymru yn genedl ddwyieithog, ac fel sefydliad, rydyn ni’n falch o gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050, i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Er mwyn cynorthwyo i gyflawni hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth cymwysterau cyfrwng Cymraeg fel y gall ein dysgwyr sefyll cymwysterau yn yr iaith o'u dewis.

Er mwyn cynyddu darpariaeth cymwysterau cyfrwng Cymraeg, mae Cymwysterau Cymru wedi adolygu ei ganllawiau mewn perthynas â Chymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae ein Canllaw Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg diwygiedig wedi cael eu cynllunio i gefnogi cyrff dyfarnu i ddatblygu, cyflawni a dyfarnu cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ei nod canolog yw cynorthwyo cyrff dyfarnu i ehangu eu cynnig cyfrwng Cymraeg.

Mae'r canllawiau hyn yn gynghorol eu natur, a'u nod yw cefnogi’n raddol y broses o ehangu darpariaeth cymwysterau cyfrwng Cymraeg ar gyflymder sy'n addas i'r adnoddau sydd ar gael. Gall cyrff dyfarnu ddarllen y ddogfen lawn neu gyfeirio at adrannau yn ôl yr angen.

Trosolwg o’r ymgysylltiad y gofynnir amdano

Rydyn ni’n ceisio barn cyrff dyfarnu ar ein canllawiau diwygiedig ar gyfer cyrff dyfarnu sy'n ymwneud â datblygu, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau cyfrwng Cymraeg. Mae’r canllawiau diwygiedig hyn yn cyfuno canllawiau presennol sy’n ymwneud â chymwysterau cyfrwng Cymraeg.

  • Canllawiau i Gyrff Dyfarnu ar ddatblygu, darparu a dyfarnu Cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Y Cynnig Cymraeg - Y Cynnig Gweithredol

Nid yw'r canllawiau hyn yn cynnwys ein canllawiau cyhoeddedig cyfredol i gefnogi cydymffurfiaeth ag Amod D9: Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg gan fod y canllawiau hyn yn destun Ymgynghoriad yn 2023. Mae mân ddiwygiadau wedi cael eu gwneud i ganllawiau Amod D9 i adlewyrchu ein dull o ddynodi cymwysterau 14-16. Bydd fersiwn diwygiedig yn cael ei ailgyhoeddi ochr yn ochr â'r Canllaw Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg. Ar ôl eu cwblhau, gellir cael hyd i’r ddwy gyfres o ganllawiau drwy ein Fframwaith Rheoleiddio.

Rydyn ni’n eich gwahodd i roi adborth ar gynnwys ein Canllaw Cymwysterau Cyfrwng Cymraeg diwygiedig drwy adolygu'r canllawiau drafft atodedig a chwblhau'r arolwg cysylltiedig erbyn 9 Mawrth 2026.

Unwaith y bydd y testun wedi'i gwblhau, rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi'r canllawiau hyn mewn fformat newydd. Ar hyn o bryd rydyn ni’n ystyried nodweddion dylunio i wneud y ddogfen yn hygyrch ac yn hawdd i'w darllen. Mae ein cwestiynau yn gofyn am eich barn ar nodweddion dylunio a llywio yr hoffech eu gweld o fewn y canllawiau.

Diweddaru: 24 Chwef 2026, 09:25 AC