Arolwg Rhestr Gymeradwy o Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymhwyster TGAU newydd Gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Bydd 60% o’r cymhwyster hwn yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad lle bydd yn rhaid i ddysgwyr:
• berfformio mewn dau chwaraeon neu weithgaredd corfforol wedi'u dewis o Restr Gymeradwy
• darparu hyfforddiant neu hyfforddiant personol i eraill mewn chwaraeon neu weithgaredd corfforol a ddewiswyd o Restr Gymeradwy
Rydym nawr yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu’r Rhestr Gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau a corfforol y bydd dysgwyr yn dewis o’u plith. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaethafaelgar a chynhwysol o chwaraeon unigol a thîm a gweithgareddau corfforol priodol.
Rydym wedi defnyddio rhestr gyfredol gweithgareddau TGAU Addysg Gorfforol CBAC fel man cychwyn ar gyfer datblygu’r ‘Rhestr Gymeradwy ddrafft’ ar gyfer ein cymhwyster TGAU newydd Gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd. Hoffem wybod a ydych yn meddwl y dylid ychwanegu unrhyw chwaraeon neu weithgareddau corfforol at y Rhestr Gymeradwy ddrafft hon, neu eu tynnu oddi arni.*
Byddwn yn defnyddio meini prawf i asesu addasrwydd chwaraeon a gweithgareddau corfforol a fydd yn cael eu cynnwys ar y Rhestr Gymeradwy derfynol. Hoffem gael eich adborth ar y meini prawf drafft, y gellir eu darllen yma. Bydd hyn yn ein helpu i gwblhau’r meini prawf i sicrhau bod unrhyw chwaraeon a gweithgareddau corfforol sydd wedi’u cynnwys ar y Rhestr Gymeradwy derfynol yn darparu cyfleoedd priodol i asesu sgiliau dysgwyr yn y TGAU newydd.
Rhannwch eich adborth ar y meini prawf drafft ac a ddylai unrhyw chwaraeon neu weithgareddau corfforol gael eu hychwanegu at, neu eu tynnu oddi ar, y Rhestr Gymeradwy ddrafft gan ddefnyddio ein harolwg ar-lein.
Cyn ymateb i'r ymgynghoriad, byddwch chi’n cael eich gofyn i gofrestru neu fewngofnodi. Mae hon yn broses syml sy’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom ni i’n helpu i ddadansoddi eich ymatebion. Am fwy o wybodaeth am pam rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol, sut mae'n cael ei chadw ac sut rydyn ni'n gallu ei ddefnyddio, darllenwch einPolisi Preifatrwydd | Dweud eich dweud - Cymwysterau Cymru.Os ydych chi eisoes wedi defnyddio'r platfform yma i ddweud eich dweud ar unrhyw un o'n hymgynghoriadau, yna ni fydd angen i chi gofrestru eto. Yn syml, mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich manylion cyfredol.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 6 Rhagfyr, 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech dderbyn yr arolwg mewn fformat arall, e-bostiwch diwygio@cymwysterau.cymru.
*Bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch pa chwaraeon a gweithgareddau corfforol a fydd yn ymddangos ar y rhestr Gymeradwy newydd yn cael eu gwneud yng nghyd-destun y TGAU newydd Gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, felly ni fydd yn ofynnol i CBAC ddiwygio’r rhestr o weithgareddau ar gyfer y cymhwyster TGAU Addysg Gorfforol cyfredol o ganlyniad i'r ymarfer hwn.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.