TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl)

Drwy astudio’r gwyddorau, mae dysgwyr yn mynd ar siwrne ddarganfod er mwyn mynd ati i archwilio sut mae cysylltiad cynhenid rhwng gwahanol ddisgyblaethau gwyddonol a sut maen nhw wedi’u huno gan ysbryd o chwilfrydedd ac ymholi.

Mae TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) yn gymhwyster newydd sy’n uno’r holl wyddorau er mwyn archwilio, ymchwilio ac adeiladu cysylltiadau rhwng bioleg, cemeg a ffiseg er mwyn datrys problemau.

Trwy brofiadau dysgu cyfoethog, bydd dysgwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth gysyniadol ynglŷn â sut mae gwyddoniaeth yn siapio ein byd modern ac yn gallu darparu datrysiadau i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.

Beth fydd y dysgwyr yn ei astudio?

Bydd y cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn amrywiaeth eang o gynnwys gwyddonol, sy'n eu galluogi i werthfawrogi natur integredig a chysylltiedig y gwyddorau. Bydd yn rhoi sylw i bum maes cynnwys:

  • Chwilfrydedd gwyddonol - Bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ymchwilio, archwilio, dadansoddi, dylunio a llunio atebion creadigol i broblemau gwyddonol. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu dangos ar draws y cymhwyster
  • Dod â'r gwyddorau ynghyd i ddatrys problemau - Bydd y dysgwyr yn gwneud cysylltiadau ar draws y disgyblaethau gwyddoniaeth drwy archwilio problemau a heriau sy'n gysylltiedig â thri maes ffocws penodedig
  • Bioleg
  • Cemeg
  • Ffiseg

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Arholiadau (75%). Bydd dysgwyr yn sefyll tri arholiad a fydd yn asesu cynnwys o'r meysydd ffocws ar gyfer y dair disgyblaeth wyddoniaeth a ‘dod â'r gwyddorau ynghyd'
    • Rydyn ni eisiau clywed eich barn chi am strwythur ac amseru'r arholiadau hyn. Edrychwch ar y ddau opsiwn a ddisgrifir yn y cynnig dylunio llawn.
  • Arholiad ymarferol (10%). Asesu sgiliau gwyddoniaeth ymarferol dysgwyr. Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod a'i farcio gan y corff dyfarnu. Bydd amryw o friffiau ar gael i ysgolion ddewis ohonyn nhw
  • Ymchwiliad (15%). Bydd dysgwyr yn dewis un o'r meysydd ffocws y maen nhw wedi eu hastudio yn 'dod â'r gwyddorau ynghyd i ddatrys problemau'. Yn ystod yr asesiad ffurfiol, bydd dysgwyr yn ymateb i gwestiynau y maent wedi'u gweld o flaen llaw (wedi’u gosod gan y corff dyfarnu) i fyfyrio ar eu hymchwiliad a dod i gasgliadau. Bydd hyn yn cael ei farcio gan y corff dyfarnu
  • Bydd sgiliau chwilfrydedd gwyddonol yn cael eu hasesu ar draws pob asesiad

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Am fwy o wybodaeth am ein penderfyniad i greu'r cymhwsyter newydd TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) hwn, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:36 PM