TGAU Peirianneg

Mae peirianneg yn chwarae rôl ym mhob agwedd o’n bywydau – o deledu clyfar i geir trydan i freichiau neu goesau artiffisial.

Bydd TGAU Peirianneg yn caniatáu i ddysgwyr ddeall sut mae peirianneg yn ffurfio ein cymunedau a’n planed ac yn effeithio arnyn nhw, a sut y gall gyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.

Bydd dysgwyr yn cofleidio heriau peirianneg ac yn gweithio gydag offer a deunyddiau i gynllunio datrysiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau diddorol a dilys. Byddan nhw’n datblygu eu sgiliau i greu cynnyrch a chydrannau ymarferol gyda chywirdeb a manylder.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Dangos a defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion, deunyddiau, offer a thechnegau peirianyddol, a defnyddio mathemateg ar gyfer peirianneg.
  • Dadansoddi gwybodaeth dechnegol a gwerthuso cydrannau, cynhyrchion, a datrysiadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau peirianyddol.
  • Dangos sgil a chywirdeb wrth gynhyrchu cydrannau a chynhyrchion diriaethol sy’n bodloni manyleb ac wrth ddatrys problemau peirianneg.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Portffolio (60%) yn asesu sgiliau, a’r gallu i ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth, i wneud cydrannau neu gynhyrchion diriaethol a datrys problemau peirianyddol. Bydd y portffolio’n cynnwys cyfres o dasgau sy'n defnyddio cyd-destunau gwahanol ac yn targedu amrywiaeth o alluoedd dysgwyr mewn peirianneg. Bydd y tasgau’n cael eu gosod gan y corff dyfarnu, yn cael eu marcio gan athrawon, a'u cymedroli gan y corff dyfarnu.
  • Arholiad (20%) yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion, deunyddiau, offer a thechnegau peirianneg, a’u defnyddio. Rydyn ni’n cynnig bod yr arholiad yma’n cael ei wneud ar-y-sgrîn.
  • Asesiad ymarferol (20%) yn asesu gallu dysgwyr i greu cynhyrchion neu gydrannau peirianyddol diriaethol gyda sgil a manylder wrth weithio i fanyleb benodol. Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod a'i farcio gan y corff dyfarnu. Bydd y corff dyfarnu hefyd yn nodi hyd ac amseriad yr asesiad.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 02:33 PM