Mae'r gwaith ar Iaith Arwyddion Prydain (IAP) wedi dilyn llinell amser wahanol i bynciau eraill gan nad oes hanes o addysgu IAP fel pwnc a does dim TGAU cyfredol i adolygu a diwygio. Er mwyn deall y cyd-destun rydym yn gweithio ynddo yn well, rydym wedi ymgymryd â chryn ymgysylltu a chynnal gwaith ymchwil manwl.
Fel nodwyd yn ein hadroddiad penderfyniadau a gyhoeddwyd yn Hydref 2021, roedd cefnogaeth gref i ddatblygu cymhwyster ‘gwneud-i-Gymru’. Mae'n werth nodi, o'r ymatebion hynny, nad oeddem yn gallu dehongli a oedd ymatebwyr o blaid datblygu cymhwyster i ddefnyddwyr iaith gyntaf neu i ddysgwyr, neu'r ddau.
O ganlyniad i'r ymchwil a gynhaliwyd a sgyrsiau gyda rhanddeiliaid, rydym yn cynnig datblygu TGAU gwneud-i-Gymru wedi'i anelu at ddysgwyr sy'n dysgu IAP am y tro cyntaf. Rydym yn cynnig hyn oherwydd:
Bydd yn helpu i godi proffil IAP yng Nghymru ac yn galluogi cymdeithas fwy cynhwysol.
Bydd yn rhoi cyfle i fwy o bobl ifanc ddysgu IAP. Mae IAP wedi’i weld ar raglenni teledu oriau brig sydd wedi codi ei broffil yn gyffredinol a gallai amlygrwydd modelau rôl positif ar y cyfryngau arwain at fwy o bobl sy'n dymuno dysgu IAP.
Bydd yn helpu rhoi amser i ysgolion feithrin gallu i ddarparu IAP ar lefelau uwch y camau dilyniant.
Bydd yn helpu i adeiladu màs critigol o ddefnyddwyr IAP a'r rhai sy'n gallu deall IAP yng ngweithlu'r dyfodol.
Bydd yn sicrhau niferoedd hyfyw ar gyfer cyrff dyfarnu yn y tymor canolig er y gallai'r niferoedd cychwynnol sy'n cwblhau'r TGAU fod yn gymharol fach.
Rydym yn cydnabod efallai na fydd hwn yn TGAU addas ar gyfer defnyddwyr rhugl a hyderus IAP ac rydym yn ymwybodol efallai y bydd angen ailedrych ar y penderfyniad yn y dyfodol i gynnig opsiynau i ddysgwyr sy'n datblygu eu sgiliau cyfathrebu i lefelau uwch.
Byddwn yn ymgynghori ar y cynnig dylunio ar gyfer TGAU IAP newydd yn dilyn cydweithio ag arbenigwyr pwnc, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.