TGAU Hanes
Mae astudio hanes yn rhoi angerdd, chwilfrydedd a dealltwriaeth i ddysgwyr am y newidiadau a’r digwyddiadau sydd wedi ffurfio eu cymunedau, eu teuluoedd ac eraill dros amser.
Bydd TGAU Hanes yn caniatáu i ddysgwyr archwilio’r gwead cyfoethog o gyfnodau a chyd-destunau a fydd yn ehangu eu gwybodaeth ac yn datblygu dealltwriaeth o straeon sy’n ein cysylltu fel cenedl ac â’r byd ehangach.
Bydd dysgu am gymunedau cymhleth, lluosog ac amrywiol y gorffennol yn meithrin ymdeimlad o gynefin, y mae Cwricwlwm Cymru’n ei ddiffinio fel “lleoliad hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi ffurfio ac sy’n parhau i ffurfio’r gymuned sy’n trigo yno.”
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi hyder a sgiliau i ddysgwyr feddwl fel haneswyr a datblygu dealltwriaeth o bwy ydyn nhw, o le maen nhw’n dod, a’r broses o newid dros amser.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu:
- Sgiliau ymholi hanesyddol.
- Dealltwriaeth gysyniadol o hanes a gwybodaeth hanesyddol yn eang ac yn fanwl.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gysylltiadau hanesyddol.
- Datblygu a defnyddio sgiliau:
- dadansoddi ffynonellau a gwerthuso gan gynnwys cyfleu canfyddiadau a ffurfio barn sy’n cael ei gefnogi
- dehongli ac arwyddocâd hanesyddol a'r gallu i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau mewn cyd-destunau newydd ac anghyfarwydd.
Bydd y fanyleb yn darparu cyfleoedd naturiol a dilys i archwilio Hawliau Dynol ac amrywiaeth, gan gynnwys hanes Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, hunaniaeth, diwylliant, a chyfraniadau, a hynny drwy lens Hanes.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Arholiadau (50%):
- Bydd y rhain yn asesu:
- Gallu dysgwyr i ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau hanesyddol drwy eu cyd-destun dewisol
- Gwybodaeth hanesyddol dysgwr am eu bro, am Gymru, ac am Hanes Ewrop a'r Byd.
- Gallai'r arholiadau hyn gynnwys asesiad digidol, ar-sgrin.
Asesiad di-arholiad (50%):
- Bydd dau asesiad di-arholiad:
- Ymholiad hanesyddol (30%)
- Aseiniad (20%).
- Bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy dasgau fydd yn cael eu gosod gan y corff dyfarnu.
- Gallai’r rhain gael eu marcio gan athrawon neu'r corff dyfarnu. Bydd tasgau sy'n cael eu marcio gan athrawon yn cael eu safoni gan y corff dyfarnu.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.