Mae astudio dylunio a thechnoleg yn datblygu’r ddealltwriaeth a’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan yn greadigol ac yn llwyddiannus mewn byd sy’n dibynnu ar ddylunio deallus a datrysiadau technolegol.
Bydd y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg newydd yn grymuso dysgwyr i archwilio a datblygu datrysiadau creadigol i broblemau dilys. Bydd dysgwyr yn deall sut mae datblygiadau dylunio a thechnoleg yn llywio bywyd modern ac yn ein caniatáu i ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o ymateb i’r heriau a’r materion y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu.
Bydd dysgwyr yn dewis eu maes astudio eu hunain - dylunio peirianyddol, ffasiwn a thecstilau, neu ddylunio cynnyrch – er mwyn dylunio a chreu cynnyrch sy’n diwallu anghenion a gofynion defnyddwyr.
Pa lwybrau fydd ar gael i ddysgwyr?
Bydd dysgwyr yn dewis o un o dri llwybr sydd ar gael:
Dylunio peirianyddol
Ffasiwn a thecstilau
Dylunio cynnyrch.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Dangos a defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o'r egwyddorion, y deunyddiau, yr offer a'r technegau a ddefnyddir yn eang mewn dylunio a thechnoleg, yn gyffredinol ac o fewn y llwybr a ddewiswyd.
Datblygu dyluniadau a chynhyrchion diriaethol mewn ymateb i friff neu fanyleb, neu i ddatrys problemau sydd wedi’u nodi.
Dadansoddi a gwerthuso cynhyrchion ac atebion mewn amrywiaeth o gyd-destunau dylunio a thechnoleg.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Prosiect dylunio (70%) wedi’i strwythuro o amgylch y defnydd o feddylfryd dylunio a phrosesau ailadroddus. Bydd ymgeiswyr yn dewis o amrywiaeth o gyd-destunau/briffiau a ddarperir gan y corff dyfarnu i greu prototeip diriaethol o gynnyrch neu ddatrysiad i broblem. Bydd hyn yn cael ei farcio gan athrawon a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
Arholiad(30%) yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddylunio a thechnoleg, gan gwmpasu cynnwys sy'n gysylltiedig â llwybr a ddewiswyd gan ddysgwr.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.